Datganiadau i'r Wasg

Tocynnau nawr ar werth ar gyfer arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Heddiw rhyddhaodd Amgueddfa Cymru docynnau ar gyfer arddangosfa fyd-enwog Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r arddangosfa ar fenthyg o’r Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain, ac yn agor yng Nghaerdydd ar ddydd Gwener 27 Mai 2022.

Bydd Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn dychwelyd i Gaerdydd am y chweched tro, i arddangos lluniau rhagorol sy’n dal ymddygiad diddorol anifeiliaid ac amrywiaeth rhyfeddol byd natur.

Ffotograffydd Bwyd Gwyllt y Flwyddyn yw’r digwyddiad ffotograffig pwysicaf o’i fath, ac mae wedi rhoi llwyfan i luniau o olygfeydd mwyaf rhyfeddol a dirdynnol byd natur ers dros 55 mlynedd. Noddir yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn hael iawn gan Gefnogwr Teithio Rheilffyrdd Cymru, Great Western Railways, a dyma’r unig amgueddfa yn y DU y tu allan i Lundain i ddangos y 100 ffotograff rhagorol wedi’u hôl-oleuo.

Dywedodd Eleri Lynn, Pennaeth Arddangosfeydd a Theithio Rhyngwladol Amgueddfa Cymru; “Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn ôl i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Rydyn ni’n siŵr bydd lluniau rhagorol yr arddangosfa yn ysbrydoli pawb i edrych ar ryfeddod byd natur, ond hefyd yn gwneud i ni ystyried achosion ac effaith newid hinsawdd.”

Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 29 Awst, ac mae’r Amgueddfa wedi cyhoeddi rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ysbrydoli a diddanu ymwelwyr o bob oed dros yr haf. Yn eu plith mae:

  • 12 Mai 2022: Sgyrsiau Amgueddfa: Cadwraeth Sbesimen Môr-grwban Lledraidd Mwya’r Byd – tocynnau ar gael nawr, talwch beth allwch chi

Sgwrs ar-lein gan un o guraduron Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ofalu am sbesimen môr-grwban lledraidd mwyaf y byd sydd yng nghasgliad yr Amgueddfa. Cafodd y môr-grwban ei olchi i’r lan ar arfordir gogledd Cymru ym 1988 ac mae i’w weld yn oriel gwyddorau natur yr Amgueddfa.

  • 26 Mai 2022: Hwyrnos: ANIFAIL – tocynnau ar gael nawr o £15

Am y tro cyntaf mewn dwy flynedd, bydd digwyddiad byw yn cael ei gynnal yn yr Amgueddfa. Mae Hwyrnos: ANIFAL yn noson llawn hwyl i oedolion yn unig i ganfod eu natur wyllt! Bydd yr ŵyl un noson hon yn dathlu byd natur, gyda chyfle cynnar i weld arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn, cwis, DJ, cerddoriaeth a choctels. Mae croeso i chi wisgo fel eich hoff anifail hefyd wrth gwrs!

  • 2 Gorffennaf 2022: Diwrnod Cenedlaethol y Ddôl

Cyfle i’r cyhoedd alw draw i Ddôl Drefol yr Amgueddfa a rhoi cynnig ar greu bomiau hadau, celf a yoga.

  • 28 Gorffennaf 2022: Ffilm a thaith drwy’r arddangosfa

Mae arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn amlygu gwirioneddau anghysurus am yr argyfwng hinsawdd. Bydd y noson hon yn gyfle i weld yr arddangosfa a gwylio ffilm amgylcheddol bwerus fydd yn eich ysbrydoli.

  • 4 Awst 2022: Sgwrs gyda...

Trafodaeth banel fyw a rhithiol hybrid fydd yn dathlu arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn ac yn gyfle i drafod pynciau sy’n cael eu hamlygu gan y ffotograffau, megis cynaliadwyedd, yr argyfwng hinsawdd a’r effaith ar fywyd gwyllt, byd natur a’n bywydau ni.

  • 13-14 Awst 2022: Amgueddfa Dros Nos: Byd Natur Gartref

Mwynhewch noson o sbort a sbri yn yr Amgueddfa o adref, gan gynnwys cystadleuthau, coginio, crefftau a gwesteion arbennig. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Amgueddfa Dros Nos wedi gwerthu allan yn gyflym, felly bachwch y cyfle i diddanu’r plant dros yr haf!

Cost mynediad i’r arddangosfa yw £10, gyda gostyngiadau yn £7 a mynediad am ddim i blant dan 16 ac Aelodau Amgueddfa Cymru. Am ragor o wybdoaeth ac i archebu tocynnau ir arddangosfa a’r digwyddiadau, ewch i dudalen yr arddangosfa ar ein gwefan.