Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa newydd yn dathlu 100 mlynedd o’r BBC yng Nghymru yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

I nodi canmlwyddiant y BBC, bydd arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, BBC 100 yng Nghymru, yn adrodd hanes y gorfforaeth yng Nghymru. O’r darllediadau cyntaf yn y 1920au i’n hoes ddigidol ni heddiw, mae’r arddangosfa yn archwilio sut mae Cymru wedi cyfrannu at greu a datblygu’r BBC, a sut mae’r BBC wedi dylanwadu ar Gymru.

Logo ar gyfer arddangosfa BBC 100 yng Nghymru, yn dangos teitl yr arddangosfa mewn ffont mawr am hanner y ddelwedd. Mae'r hanner arall yn dangos teledu o'r 1960au.

Bydd BBC 100 yng Nghymru yn agor ar 10 Rhagfyr 2022 ac i’w weld tan 16 Ebrill 2023. Bydd yn olrhain hanes darlledu radio a theledu Cymreig; a’r newidiadau mewn rhaglenni, mewn agweddau, ac mewn technoleg – o’r radios cynnar i’r dyfeisiadau diweddaraf. 

O’r darllediad cyntaf un yng Nghaerdydd ar 13 Chwefror 1923, daeth Cymru o hyd i’w llais ar y tonfeddi drwy gyfrwng amrywiaeth o raglenni Cymraeg a Saesneg. Daeth y teledu â gwawr newydd, gyda sefydlu BBC Cymru ac agor y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf. Mae’r dechnoleg wedi newid, ond mae heriau darlledu yng Nghymru wedi bod yn elfen gyson dros y degawdau. 

Bydd yr arddangosfa yn rhoi sylw i rai o’r digwyddiadau allweddol hynny, yn ogystal â’r rhaglenni a ddarlledwyd ar y BBC. Bydd gwrthrychau o gasgliadau Amgueddfa Cymru i’w gweld, ynghyd â deunydd o archif BBC Cymru. Bydd cyfle i astudio setiau teledu a radio mwyaf poblogaidd y 1950au, ac ymlacio mewn lolfa o’r 1970au i wylio ychydig o deledu’r Nadolig. Bydd ymwelwyr o bob oed yn mwynhau dysgu am rai o raglenni plant y gorffennol – o Muffin the Mule a Lili Lon i Teliffant a’r Teletubbies

Bydd BBC 100 yng Nghymru hefyd yn cynnwys eitemau ar fenthyg o rai o’r cyfresi mawr a ffilmiwyd yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Doctor WhoSherlock a His Dark Materials – bydd yma rywbeth i bawb. 

Bydd cyfleoedd i hel atgofion ac ymateb – mae’r Amgueddfa eisiau gwybod mwy am arferion gwylio a gwrando cynulleidfaoedd Cymru.

Dywedodd Sioned Williams, Prif Guradur: Hanes Modern yn Amgueddfa Cymru:

“Mae’r arddangosfa yn edrych ar rai o’r digwyddiadau allweddol yn hanes y BBC dros y ganrif ddiwethaf sydd wedi cael effaith ar fywyd yng Nghymru. Mae’n gyfle i bobl rannu eu hatgofion nhw am y BBC gydag eraill. Rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr o bob oed yn mwynhau’r gwrthrychau rhyfeddol.

“Rydyn ni hefyd eisiau clywed barn pobl am y BBC – da neu ddrwg – a beth hoffent ei weld a’i glywed yn y dyfodol.”

Mae’r arddangosfa yn rhan o bartneriaeth newydd 7 mlynedd gyda’r BBC, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2021. Bydd y ddau sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu rhaglenni cyhoeddus, sy’n cynnwys arddangosfa BBC 100 yng Nghymru. Byddant hefyd yn ceisio gwneud eu casgliadau a’u hymchwil yn hygyrch yn gorfforol ac yn ddigidol. Mae’r ddau sefydliad wedi ymrwymo i rannu profiadau, gan helpu i gefnogi ein cymunedau a lles Cymru wedi COVID-19.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Ni fyddai’r arddangosfa hon yn bosibl oni bai am ein partneriaeth greadigol a phositif gyda’r BBC. Dros y ganrif ddiwethaf, mae’r BBC a darlledwyr cyhoeddus eraill wedi bod yn un o gonglfeini ein democratiaeth, a’n dealltwriaeth a’n hymwneud â’r byd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am gymorth y BBC wrth ddatblygu’r arddangosfa, ac am yr eitemau y maent wedi’u rhoi i gasgliadau Amgueddfa Cymru fel y gall trigolion Cymru eu mwynhau am genedlaethau i ddod. 

“Gobeithiwn y bydd ymwelwyr yn cael eu hysbrydoli gan hanes y BBC, a’i gynlluniau am y dyfodol, ond hefyd y bydd yr arddangosfa yn rhoi cysur a chyfle i feddwl am eu stori eu hunain yn dilyn y blynyddoedd unig diweddar.”

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru:

“Mae can mlynedd o raglenni a gwasanaethau’r BBC yng Nghymru yn dipyn o garreg filltir, ac alla i ddim meddwl am ffordd well o nodi’r achlysur na gydag arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd sy’n bwrw golwg dros yr arlwy ryfeddol sydd wedi’i chreu yng Nghymru dros ganrif. Yr hyn sy’n fy nharo i yw cyfoeth yr amrywiaeth o raglenni a gwasanaethau radio, teledu ac ar-lein sydd wedi dal rhai o eiliadau allweddol ein hanes, yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r cyfan yma, a hoffwn ddiolch i’r Amgueddfa am guradu arddangosfa gyda llygaid a syniadau ffres.

“Yn sicr, mae sawl trysor ac atgof o’r gorffennol i’w gweld yn yr arddangosfa, ond yr hyn sy’n bwysig yw ein bod – drwy gofnodi canrif o ddarlledu – yn ysbrydoli darlledwyr y dyfodol; nhw fydd yn cofnodi hynt a helynt ein cenedl dros y can mlynedd nesaf.”

Mae BBC 100 yng Nghymru wedi cael ei datblygu ar y cyd â rhwydwaith o bobl ifanc o bob cwr o Gymru (Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru), oedd yn awyddus i gwestiynu cynrychiolaeth gwahanol gymunedau ar y BBC a sut gall y dyfodol edrych yn sgil yr holl newidiadau i gyfryngau. Bydd cyfleoedd drwy’r arddangosfa i ymwelwyr rannu eu barn ar esblygiad y BBC yng Nghymru.

I gyd-fynd â dathliadau’r canmlwyddiant yng Nghymru ym mis Chwefror 2023, bydd yr Amgueddfa yn cynnal digwyddiad i’r teulu ar 11 Chwefror. Bydd hyn yn gyfle i ymwelwyr ymgolli yn y stiwdio deledu, gyda gweithgareddau yn cynnwys creu stori newyddion, a chael ychydig o golur arbennig.

Mae mynediad am ddim i’r arddangosfa a gall ymwelwyr archebu tocyn am ddim ymlaen llaw. Mae rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa a’r diwrnod i’r teulu ar ein gwefan: amgueddfa.cymru/BBC