Datganiadau i'r Wasg
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dangos Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw gan Syr John Akomfrah am y tro cyntaf yn y DU
Dyddiad:
2025-03-27Gosodwaith amlgyfrwng yw Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw gan Syr John Akomfrah, a gomisiynwyd gan y British Council ar gyfer pafiliwn Prydain yn 60fed gŵyl Biennale Fenis, 2024. Amgueddfa Cymru yw’r amgueddfa gyntaf i ddangos y gwaith ar ei daith drwy’r DU.
John Akomfrah. Hawlfraint: © John Akomfrah. Llun gan Jack Hems.
Cafodd y gwaith ei arddangos yn wreiddiol yn Fenis fel cyfres o wyth ‘Caniad’ – gweithiau oedd yn gorgyffwrdd. Mae’n bleser gan Amgueddfa Cymru gael dangos Caniadau IV, V a VI yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 24 Mai–7 Medi 2025, gyda chefnogaeth y British Council a’r Gronfa Gelf.
Mae John Akomfrah, sy’n byw ac yn gweithio yn Llundain, yn ffigwr dylanwadol ym meysydd ffilm arbrofol ac astudiaeth hanes trefedigaethol a hunaniaeth ar sail hil. Nid yw’r gwaith hwn yn eithriad. Mae delweddau hardd yn cyferbynnu â gwirioneddau poenus, wrth i’r darnau ddod ynghyd i greu naratifau ynghylch mudo, gwrthryfel, ymgyrchu, camwahaniaethu ac effeithiau amgylcheddol. Mae’n talu teyrnged i leisiau ar ymylon cymdeithas, gan gynnwys cenhedlaeth Windrush, ac yn edrych ar eiliadau allweddol mewn hanes trefedigaethol ac ôl-drefedigaethol.
Mae pob darn aml-haenog yn cynnwys deunydd wedi’i ffilmio o’r newydd, ynghyd â chlipiau fideo o’r archif a delweddau llonydd, wedi’u plethu ynghyd gyda seiniau rhythmig, clipiau sain a thestun. Mae’n waith i ymgolli ynddo, ac mae’n annog gwrando fel ffurf o weithredu.
Dywedodd Syr John Akomfrah:
“Mae dod â Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw i’r DU ar ôl ei gyfnod ym Mhafiliwn Prydain yn Fenis yn fodd o barhau â’r sgyrsiau a ddechreuwyd gan y gwaith. Mae gwahanol ddarnau’r gwaith yn toddi i’w gilydd, gan adlewyrchu’r ffordd y caiff y cof – personol a chyffredinol – ei siapio gan hanesion mudo, dadleoli ac ymyrraeth wleidyddol. Rwy’n gobeithio y bydd arddangos y gwaith ym Mhrydain yn amlygu safbwyntiau newydd ar y ffyrdd y mae’r naratifau hyn yn esblygu ar draws cenedlaethau, ac yn dal i atseinio heddiw.”
Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:
“Rydyn ni’n gyffrous iawn i ddod ag arddangosfa Listening All Night To The Rain gan John Akomfrah i Gaerdydd. Mae hon yn foment arwyddocaol i Gymru. Wedi’i ddangosiad llwyddiannus yng ngŵyl Biennale Fenis, un o’r llwyfannau pwysicaf yn y byd ar gyfer celf weledol, mae’n anrhydedd cael cyflwyno darn mor bwerus yn Amgueddfa Cymru, gan roi cyfle i gynulleidfa newydd brofi’r gwaith cymhleth hwn. Mae’r gwaith yn cynnig naratif sy’n croesi ffiniau, gan archwilio mudo, hunaniaeth a phrofiadau dynol. Trwy ddod â gwaith John i’n prifddinas, gobeithiwn annog pobl Cymru i gysylltu â’i weledigaeth, ei greadigrwydd a’i negeseuon pwysig.”
Ynghyd â Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hefyd yn dangos casgliad o waith yr artist o Gymru Sean Edwards oedd yn rhan o’i arddangosfa Undo Things Done, pan gynrychiolodd Cymru yn 58fed Biennale Fenis yn 2019.
Fe fydd yr arddangosfa yn cyfeirio at fagwraeth yr artist mewn stad o dai yng Nghaerdydd yn y 1980au, gan gofnodi cyflwr o ‘beidio disgwyl llawer’ a’i drosi yn iaith weledol; un sydd yn dwyn i gof ffordd o fyw fydd yn gyfarwydd i lawer. Cafodd gwaith o arddangosfa Edwards yn y Biennale Fenis ei brynu gan Amgueddfa Cymru ar gyfer y casgliad cenedlaethol, a hwn fydd y tro cyntaf i’r gwaith gael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Dywedodd Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru:
“Mae Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw yn ddarn teimladwy a myfyriol, sy’n archwilio digwyddiadau yn ein hanes fel pobl sydd wedi siapio ein ffordd o weld a phrofi’r byd. Rydym yn falch iawn mai Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fydd y lleoliad cyntaf yn y DU i ddangos y gwaith, a hoffem ddiolch i’r British Council am gefnogi’r daith. Rydym hefyd yn falch o ddangos gwaith a ddangoswyd fel rhan o arddangosfa Sean Edwards, Undo Things Done, ar y cyd â gosodwaith Syr John Akomfrah. Mae’r ddau waith yn wedi’u cyflwyno’n wreiddiol yn Biennale Fenis, ac yn dystiolaeth o safon artistiaid cyfoes Cymru a Phrydain ar y llwyfan rhyngwladol.”
Mae tocynnau ar gyfer Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw (24 Mai 2025–7 Medi 2025) am ddim. Mwy o wybodaeth ar gael o Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw gan John Akomfrah
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Rachel Bowyer, Arweinydd Cyfathrebu
rachel.bowyer@amgueddfacymru.ac.uk
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Ganwyd Syr John Akomfrah ym 1957, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain. Mae’n un o sylfaenwyr y Black Audio Film Collective, 1982-1998. Mae ei ddylanwad yn enfawr ar feysydd ffilm arbrofol ac astudiaeth hanes trefedigaethol a hunaniaeth ar sail hil.
Cafodd Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw ei gomisiynu gan y British Council ar gyfer 60fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia, 2024 ar y cyd â Lisson Gallery, Thyssen Bornemisza Art Contemporary a Smoking Dogs Films.
Mae’r holl waith celf yn ymddangos trwy garedigrwydd Lisson Gallery a Smoking Dogs Films.
Caiff comisiwn a thaith Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw o gwmpas y DU ei gefnogi gan y Gronfa Gelf.
Delweddau:
Portreadau o’r artist
Hawlfraint: © John Akomfrah. Llun gan Jack Hems.
Delweddau o Gwrando Drwy’r Nos ar y Glaw
Dylid cydnabod delweddau fel a ganlyn:
© Smoking Dogs Films; Trwy garedigrwydd Smoking Dogs Films a Lisson Gallery.
Dylid capsiynu delweddau fel a ganlyn:
John Akomfrah; Listening All Night To The Rain, 2024 (llun llonydd)
Gosodwaith fideo HD aml-sianel gyda sain amgylchynol
Comisiynwyd gan y British Council ar gyfer 60fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia, 2024