Gweithgaredd Dau - Cael Dau Ben Llinyn Ynghyd

Rhowch gynnig ar ymarferiad 'Cael Dau Ben Llinyn Ynghyd' lle mae'n rhaid i chi gynllunio siopa wythnosol 3 theulu gwahanol ym Mlaenafon ym 1842 - teulu labrwr, teulu glöwr a theulu pydlwr.

Eich her yw sicrhau bod pob teulu yn cael digon o fwyd ac yn cadw'n gynnes ac yn lân drwy ddefnyddio'r cyflog sydd ar gael i bob un. A yw hyn yn bosibl? Rhowch gynnig ar yr ymarferiad i weld, ac yna llenwi'r taflen gwaith.


Pa ddatganiad yn y Grid Gwerthuso sy'n eich disgrifio orau?

Arolygydd Dan Hyfforddiant Arolygydd Cynorthwyol Uwch Arolygydd

Mae gen i rywfaint o ddealltwriaeth o ba mor anodd oedd hi i deuluoedd gael dau ben llinyn ynghyd ym 1842.

Rwyf wedi gwario yn unol â'm cyllideb ar gyfer pob un o'r tri theulu.

Wrth ateb y cwestiynau, weithiau rwyf wedi esbonio fy newisiadau o ran sut i wario'r arian.

Rwyf wedi ateb pob cwestiwn yn gywir ac wedi esbonio fy newisiadau o ran sut i wario'r arian.

Wrth gymharu'r teuluoedd, rwy'n deall na fyddai'n bosibl bwydo pob teulu yn dda, neu eu cadw'n gynnes ac yn lân.