Strwythur yr Adnodd Dysgu
Y Sefyllfa
Cyflwynir sefyllfa gychwynnol i'r plant sy'n rhoi cyd-destun ar gyfer eu hymchwiliad a'u hadroddiad terfynol. Yn yr adnodd hwn, gofynnir iddynt fod yn arolygwyr i Gomisiwn Brenhinol y Frenhines Fictoria i ganfod y gwirionedd am amodau gwaith a bywyd yn y trefi diwydiannol, gan ganolbwyntio'n benodol ar fywydau plant. Mae hyn yn adlewyrchu digwyddiad hanesyddol go iawn – ym 1842 fe aeth arolygwyr ati i lunio adroddiad cenedlaethol ar The Employment of Children and Young Persons in Mines; dyma oedd sylfaen Deddf Pyllau Glo (1842) a gyfyngodd ar waith bechgyn a merched ifanc a menywod mewn pyllau glo ledled y deyrnas.
Tasgau a Gweithgareddau
Mae plant yn cyflawni cyfres o weithgareddau, wedi'u dosbarthu o dan bedwar prif bennawd, gan fynd ati'n raddol i gasglu gwybodaeth am fywyd pobl ym Mlaenafon drwy ystyried tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Gydol y gweithgareddau, mae plant yn cael eu hannog i ddefnyddio eu sgiliau meddwl i gyrraedd casgliadau am fywyd gweithwyr cyffredin a chynnig rhesymau am yr amgylchiadau a'r prosesau maent yn sylwi arnynt. Pedwar maes y tasgau yw: Gwaith; Cartrefi ac Iechyd; Addysg; Twf y Gymuned. Cyflwynir gwybodaeth drwy amrywiaeth o gyfryngau, fel: fideo; rhith-wirionedd; lluniau llonydd; ymarferion modelu; graffiau; mapiau rhyngweithiol a thestun. Mae pob maes yn cynnwys nifer o weithgareddau a chanlyniadau unigol sy'n rhoi cyfle i'r plant ddangos eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r pwnc a defnyddio eu sgiliau allweddol yn ymarferol. Mae modd argraffu llawer o'r gweithgareddau, felly gall y plant weithio ar y sgrin a/neu ar bapur.
Y Canlyniad
Ar ddiwedd yr ymchwiliad, gofynnir i'r plant lunio adroddiad cryno ac awgrymu'r hyn y gellid neu y dylid ei wneud i ymateb i'r sefyllfa a ddatgelwyd gan eu hymchwiliad. Gellir llunio'r adroddiad hwn mewn sawl ffordd bosibl: arddangosfa ystafell ddosbarth; dogfen ysgrifenedig (gyda lluniau?); cyflwyniad Powerpoint; darn o ddrama; barddoniaeth; darn/casgliad o waith celf; cyfuniad o'r rhain ac ati. Pa bynnag gyfrwng a ddefnyddir, dylai'r dystiolaeth y mae'r plant wedi'i chasglu a'r ymatebion priodol iddi lywio'r cynnwys. Ar gyfer y gweithgaredd hwn, nid ydym wedi cynnig unrhyw arweiniad ar strwythur, cynnwys ac ati gan fod y posibiliadau'n ddiddiwedd.
Hunanwerthuso
Nodwedd bwysig Plant y Chwyldro yw'r cyfleuster dewisol i blant wneud asesiadau beirniadol o'u perfformiad eu hunain. Cyn pob gweithgaredd, maent yn cael dewis eu targed eu hunain ar gyfer pa mor dda y maent am gyflawni'r dasg; ydyn nhw am weithio ar lefel Arolygydd dan Hyfforddiant, Arolygydd Cynorthwyol neu Uwch Arolygydd? Mae'r hyn y bydd angen iddynt ei wneud i gyrraedd bob un o'r lefelau hyn yn cael ei nodi'n glir. Ar ôl y gweithgaredd, gallant asesu eu perfformiad gwirioneddol a'r lefel y maent wedi'i chyrraedd.
Cronfa Adnoddau
Mae amrywiol ddeunydd ffynhonnell ychwanegol a pherthnasol wedi'i gynnwys i wella gweithgareddau estyn a gwaith ymchwil personol ac i ddarparu dulliau eraill o gael gafael ar wybodaeth. Awgrymir gwerslyfrau addysgol a gwefannau defnyddiol hefyd er mwyn cynorthwyo gwaith ymchwil pellach.
Cymorth i Athrawon/Rhieni
Yn ogystal â'r nodiadau hyn, mae ‘taflenni atebion' enghreifftiol wedi'u darparu ar gyfer y rhan fwyaf o'r gweithgareddau ynghyd â fframiau ysgrifennu a/neu fodelau o atebion da ar gyfer y dasg arfaethedig. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran Nodiadau Athrawon.
Gwybodaeth Gefndir – Fideo Iron Town: Blaenavon and its part in the Industrial Revolution
Cyn dechrau'r ymchwiliad, byddai'n syniad da i'r plant wylio'r fideo Iron Town, sy'n trafod ystyr gwirioneddol y Chwyldro Diwydiannol a chyfraniad Blaenafon at ddatblygiad yr Ymerodraeth Brydeinig. Ffilmiwyd y fideo ym Mlaenafon a'i mynyddoedd cyfagos ac mae'n cynnwys y rhan fwyaf o elfennau hanesyddol allweddol Safle Treftadaeth y Byd. Mae'r fideo tua 27 munud o hyd.