Iron Town: Blaenafon and its part in the Industrial Revolution
Mae Gwasanaeth Gwella Ysgolion Cyngor Dinas Casnewydd wedi cynhyrchu fideo hanner awr, Iron Town - Blaenavon and its part in the Industrial Revolution, i gyd-fynd â'r adnodd amlgyfrwng Plant y Chwyldro.
Yn y fideo, mae Don Trueman yn disgrifio datblygiad y Chwyldro Diwydiannol a'r ffaith iddo wneud Prydain y wlad fwyaf cyfoethog a phwerus yn y byd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n ystyried cyfraniad tref fechan a chyffredin Blaenafon at yr hanes hwn a pham fod y lle hwn bellach â'r un statws hanesyddol â Phyramidiau'r Aifft neu Wal Fawr Tsieina.
Wrth geisio dod o hyd i'r ateb, mae Don yn cael ei dywys gan Sharon Ford, Swyddog Addysg Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Mae hi'n ei dywys ar daith i ddarganfod y ffeithiau, gan ymweld â thirwedd Safle Treftadaeth y Byd i weld llawer o olion ffisegol o orffennol diwydiannol Blaenafon yng nghanol y golygfeydd trawiadol. Mae hi'n cynnig atebion i lawer o gwestiynau pwysig yn ymwneud â sut, ac yn bwysicach, pam y datblygodd diwydiant yn y cwm, ei effaith ar y dirwedd a'r bobl a sut gwnaeth digwyddiadau a chymeriadau ym Mlaenafon effeithio ar filiynau o bobl ar draws y byd.
Dylai Tref Haearn roi cyflwyniad byw a syml i gysyniad y Chwyldro Diwydiannol ar gyfer ysgolion a bod yn adnodd gwerthfawr ar gyfer eu hastudiaethau o fywyd a gwaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghyfnod Allweddol 2.
Cafodd Tref Haearn ei lansio ochr yn ochr â Plant y Chwyldro yn Big Pit ar 26 Tachwedd 2003.
I gael gwybodaeth bellach am unrhyw un o'r adnoddau hyn, ffoniwch Don Trueman ar 01633 821628 neu anfonwch e-bost at don.trueman@newport.gov.uk.