Digwyddiad: Wythnos y Fyddin Rufeinig
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Wedi'i Orffen

Beth am alw draw i ymuno â'r Ail Leng Awgwstaidd a chwrdd â milwr?
Cymerwch olwg ar eu lifrau, eu harfau a'u hoffer milwrol a darganfyddwch sut oedd bywyd i filwr Rhufeinig ar gyrion yr ymerodraeth.
Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn filwr Rhufeinig?
Bydd cyfle hefyd i roi cynnig ar arfwisg Rufeinig a gorymdeithio gan ddefnyddio gorchmynion Lladin.
Gorffennwch eich ymweliad drwy brynu tystysgrif i ddweud eich bod wedi ymuno â'r fyddin Rufeinig ac wedi ennill eich darn arian cyntaf o gyflog.
Mae'r gweithgaredd yma yn para awr.