Digwyddiad:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Barics Milwr

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Wedi'i Orffen

Dewch i ymuno â ni yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru i ddysgu mwy am y gaer Rufeinig a'r milwyr a'i galwodd yn gartref. Mwynhewch daith fer o gwmpas yr oriel ac ymweliad â’r ystafelloedd Barics sydd wedi'u hailgreu.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
  • Diod gynnes a sgwrs

Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae'r sesiwn yn para tua 2 awr, gydag egwyl a lluniaeth. 

Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

Mae'r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Rhaid archebu ymlaen llawI archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu tocynnau’ i’r dde’. Neu gallwch chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio'n broblem.

Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.

Gwybodaeth

19 Rhagfyr 2025, 11am-1pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia
Person sy'n gwisgo pinc yn rhoi arfwisg Rufeinig ar ei ben

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau