Digwyddiad:Ffin Dreiddgar

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Wedi'i Orffen

Mae 'Ffin Dreiddgar' yn edrych ar sut mae ffiniau symudol yn dylanwadu ar ein dealltwriaeth o hunaniaeth a lle.

Gan weithio ar y cyd ag Artes Mundi, mae Hannan Jones wedi creu trioleg o ffilmiau byrion sy'n cael eu harddangos tan 27 Ebrill 2025.

Mae'r cyntaf yn cychwyn yn archif danddaearol Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, ac yn dangos arteffactau sy'n ymgorffori sawl naratif, gan godi cwestiynau am sut mae'r eitemau hyn yn siapio cof ar y cyd a hanesion ar chwâl. 

Mae'r ail ffilm yn camu allan o'r archif ac yn cael ei yrru gan y seinweddau sydd o'n gwmpas, tra mae'r trydydd yn canolbwyntio ar elfennau wybrennol sydd wedi eu defnyddio ers cyn cof i arwain a llywodraethu pobl. ⁠

Mae hefyd detholiad o eitemau cerameg sydd wedi cael eu creu gan gymunedau lleol Casnewydd a Chaerllion sydd yn ymgorffori myfyrdodau ar y presennol a’r dyfodol.

Mae finyl arbennig wedi’i marblo o Ffin Dreiddgar ar gael i brynu ac yn cynnwys ffotograffiaeth, geiriau wedi eu hadrodd gan Nat Raha a thestunau Cymraeg a Saesneg wedi eu comisiynu gan Nat Raha (Terrural Memoria) a Philippa Lovatt (Oscillations across time and space). Prynwch yma.

Safbwynt(iau)

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru, mae Safbwynt(iau) yn fenter arloesol sy'n dod â saith artist o ddiwylliannau amrywiol at ei gilydd i archwilio'r cysylltiadau dwfn rhwng Cymru a hanesion byd-eang ymerodraeth, mudo a gwrthsafiad. 

Mae'r arddangosfa Safbwynt(iau) yn cael ei chynnal ar draws saith safle Amgueddfa Cymru, gyda phob artist yn taflu goleuni ar hanesion cudd sydd wedi'u hymgorffori yn y casgliad cenedlaethol. 

Gwybodaeth

16 Ebrill–31 Gorffennaf 2025
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau