Sgwrs:Dyfodol ein Gorffennol - Persbectif Newydd ar Gaerllion a choncwest y Rhufeiniaid yng Nghymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Wedi'i Orffen

Nid llefydd diderfyn yw amgueddfeydd. Mae safleoedd archaeolegol Rhufeinig yn aml yn llawn gwrthrychau, ac ar ôl 180 o flynyddoedd o gasglu a chadw eitemau Rhufeinig Caerllion ac un estyniad mawr i'r adeilad ddeugain mlynedd yn ôl, mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru bron yn llawn.

Yn y ddarlith hon, bydd Dr Mark Lewis yn asesu pwysigrwydd casglu parhaus a chasgliad presennol yr amgueddfa er mwyn newid ein dealltwriaeth o agweddau ar fywyd yng Nghaerllion Oes y Rhufeiniaid. Bydd hefyd yn ystyried sut mae ymchwil ddiweddar o du hwnt i Gaerllion yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o gyfnod concwest y Rhufeiniaid yng Nghymru.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Bydd y sgwrs yn cael ei chynnal yn Eglwys Sant Cadog, Stryd Fawr, Caerllion, Casnewydd NP18 1AZ.
  • Bydd y gweithdy hon yn cael ei chynnal yn Saesneg.
  • Oedran addasrwydd: 16+
  • Bydd y gweithdy yn para tua 90 muned.

Gwybodaeth

23 Medi 2026
Pris £5.00
Addasrwydd Oedolion
NRLM

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau