Amgueddfa Fyw
Crefftau a gweithgareddau traddodiadol sy'n bywiocáu Sain Ffagan.
Mae crefftwyr yn dangos eu doniau yn eu gweithdai ac fel arfer mae eu cynnyrch ar werth.
Mae rhywogaethau cynhenid o anifeiliaid fferm yn y meysydd a buarthau fferm yn Sain Ffagan ac mae tasgau bywyd fferm yn cael eu harddangos bob dydd.
Ymwelwch â'r efail gof o'r 18fed ganrif lle cafodd ceffylau eu pedoli, pethau'r tŷ eu gwneud a'u trwsio a theiars metel eu rhoi ar olwynion troliau.
Gallwch weld ein gof preswyl yn defnyddio offer traddodiadol i wneud addurniadwaith o'r efail.
Mae'r Felin Wlân yn cynhyrchu siolau ysgwydd a charthenni Cymreig traddodiadol. Fe'i adeiladwyd ym 1760 ac mae'r broses gyfan o liwio'r cnu i orffen y garthen yn digwydd yma.
Mae Melin Ŷd Bompren yn nodweddiadol o felin sir Aberteifi a yrrir gan ddŵr. Fe'i adeiladwyd i droi ŷd yn flawd.
Gallwch weld y rhod ddŵr gymhleth sy'n ei gyrru ar waith. Gwyliwch yr ŷd yn symud drwy wahanol adrannau'r felin a diweddu'n flawd. Gwneir bara a chacennau blasus bob dydd ym Mhopty Derwen.
Mae Siop Gwalia, a godwyd yn wreiddiol ym 1880, yn gwerthu bwydydd Cymreig o’r safon uchaf. Uwchben y siop mae stafell de yn arddull y 1920au.
Ewch i'r gweithdy crydd clocsiau o Garnhedryn ger Solfa yn Sir Benfro.