Bryn Eryr nawr ar agor yn Sain Ffagan

Mae Bryn Eryr, y fferm Oes Haearn yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, nawr ar agor i’r cyhoedd. Mae’r adeilad, sy’n seiliedig ar safle archaeolegol o gyfnod y goresgyniad Rhufeinig, yn ailgread o fferm fechan ger Llansadwrn yn nwyrain Ynys Môn.

Mae Bryn Eryr ar agor yn ddyddiol 11am–4pm

Fferm Oes Haearn Bryn Eryr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae’r adeilad yn cynnwys dau dŷ crwn gyda waliau clai sy’n chwe throedfedd o drwch, a thoeau gwellt siâp côn.

Gwirfoddolwyr yn paratoi y spelt ar gyfer y gwaith toi

Cafodd ei adeiladu gyda chymorth cannoedd o wirfoddolwyr, plant ysgol a phobl leol o Drelái a Chaerau. Gyda chymorth tîm adeiladu’r Amgueddfa, buont yn codi’r waliau clai, helpu i ddehongli hanes y tai ac ailddarganfod bywydau’r preswylwyr gwreiddiol.

Bryn Eryr yw’r adeilad cyntaf i gael ei gwblhau fel rhan o broject ailddatblygu Sain Ffagan.