Castell a Gerddi
Nodyn: Dim ond nifer cyfyngedig o ystafelloedd ar y llawr gwaelod sydd ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd.**
Mae Castell Sain Ffagan yn adeilad rhestredig Gradd 1 ac yn un o'r maenordai Elisabethaidd gwychaf yng Nghymru.
Mae'r tu mewn yn dangos hanes y tŷ drwy bedair canrif. Yn ogystal â’r celfi gwreiddiol, arddangosir hefyd rhai o'r darnau gorau o gasgliad yr Amgueddfa o dai eraill.
Mae'r Castell wedi'i amgylchynu â gerddi hardd gan gynnwys Gardd Eidalaidd (a grëwyd ym 1902 ac a'i adnewyddwyd yn 2003) a gardd teim.
Mae pyllau pysgod, ffynhonnau, llwyn merwydd, gwinwydd-dy a gardd rosynnau cain yn ychwanegu dyfnder a lliw i dir yr Amgueddfa.
Y gerddi o bosibl yw cyfrinach fwyaf Sain Ffagan, o erddi’r bonedd i erddi’r bythynnod a roddai fwyd i deuluoedd oedd yn gweithio.
Maent yn cynnig darlun o fywydau pobl Cymru drwy hanes ac yn ategu'r adeiladau hanesyddol wrth ddarparu darlun o'r gorffennol.