Digwyddiad: Teithiau Ysbryd Amgueddfa Sain Ffagan

Hoffech chi weld ochr dywyll Sain Ffagan? Dewch gyda ni ar ddwy daith fflachlamp!
Wyddoch chi ei bod yn bosibl mai Cymru sydd â’r nifer fwyaf o ysbrydion yn y byd? Tybed a oes rhai yma yn Sain Ffagan? Dewch i glywed straeon ysbryd go iawn am yr adeiladau hanesyddol a chlywed am ofergoelion y Cymry am farwolaeth, galar ac ysbrydion.
Does dim gemau na thriciau ar y daith hon. Rydym wedi ymchwilio’n drylwyr ac yn driw i bob stori. Ar y daith golau fflachlamp o’r gerddi a’r adeiladau, awn i’r union lefydd lle mae pobl wedi gweld, clywed a theimlo pethau anesboniadwy dros y blynyddoedd.
Dydd Gwener 2 Medi 8:30pm - Dim lle ar ôl
Dydd Iau 29 Medi 7:30pm
Dydd Sadwrn 15 Hydref 7pm - Dim lle ar ôl
Dydd Gwener 21 Hydref 7pm - Dim lle ar ôl
Dydd Gwener 28 Hydref 7pm - Dim lle ar ôl
Dydd Gwener 4 Tachwedd 7pm - Dim lle ar ôl
Dydd Gwener 11 Tachwedd 7pm - Dim lle ar ôl
Dydd Iau 17 Tachwedd 7pm
Dydd Iau 24 Tachwedd 7pm
Dydd Gwener 2 Rhagfyr 7pm - Dim lle ar ôl
Dydd Gwener 9 Rhagfyr 7pm - Dim lle ar ôl
Dydd Gwener 16 Rhagfyr 7pm
Partneriaeth rhwng Sain Ffagan Amgueddfa Werin a Dark Wales Tours yw’r teithiau.
Nifer benodol o leoedd sydd ar gael. Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw.
Iaith: Cynhelir y taith yn Saesneg. Os hoffech drefnu taith iaith Gymraeg, cysylltwch â Dark Wales Tours.