Digwyddiadau

Cwrs: Gwehyddu Basged Gymreig

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
17 Medi 2022, 10:30 - 4yh
Pris £85 | £70 Gostyngiad
Addasrwydd 16+*
Basget helyg

Mae hwn yn un o’r ffyrdd hynaf o ddylunio basged, drwy wehyddu ar gylch ac ychwanegu asennau wrth fynd.  Dyma fasged Gymreig draddodiadol.  Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut i wehyddu dolen, ei glymu i’r cylch gyda chortyn syml, ychwanegu asennau a’i wehyddu gyda helyg Cymreig i greu basged hyfryd - perffaith i gasglu wyau, cadw pegiau neu hel mwyar duon! 

 

Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs  *(heblaw am Bopty Derwen)

Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu.

Cod post llywio â lloeren – CF5 6XB

Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.

Iaith: Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg

Gostyngiad: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed a dan 18* (rhaid i blant 16–18 fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan).

Hygyrchedd: Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.

TOCYNNAU

Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Digwyddiadau