Digwyddiad: Project Adfer Clai: Dadorchuddio Eilunod Durga
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Galwch draw am ddiwrnod o ddathlu wrth i ni ddadorchuddio'r eilunod wedi'u hadfer gan yr artist talentog, Purnendu Dey. Bydd y digwyddiad yn gyfle am sgyrsiau difyr am y broses adfer drylwyr a hanes diddorol yr eilunod hyn, ac yn gyfle i ddysgu am draddodiadau gwerthfawr ac edrych o'r newydd ar gyflwyno'r gwrthrychau gwerthfawr. Bydd cyfle hefyd i fwynhau samosa neu ddau!