Cwrs: Plygu Basgedi i Ddechreuwyr: Basgedi Zarzo

Basged Zarzo
Basged wiail Zarzo o Sbaen yw hon. Mae'r dyluniad wedi'i seilio ar hambwrdd draenio caws o Gatalonia.
Ar y cwrs hwn byddwch chi'n dysgu sut i wehyddu'r fasged brydferth hon o wiail lliw – perffaith i arddangos ffrwythau neu wyau.
Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen)
Gwybodaeth Ychwanegol
Lleoliad
Cynhelir y cwrs yma yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Defnyddiwch god post CF5 6XB ar gyfer llywio â lloeren.
Parcio
Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu.
Iaith
Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg
Oedran
16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
Hygyrchedd
Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
Gall darllen y telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau yma.
TOCYNNAU
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.