Digwyddiadau

Digwyddiad: Nosweithiau Calan Gaeaf

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
29–31 Hydref 2024 , 5.30pm - 9pm
Pris Oedolion: £14 | Plant: £14 | Babanod da 2: Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd. Plant 5 - 12 oed

Nosweithiau Calan Gaeaf 

Mae hi’n ôl! I ateb y galw mawr, cynhelir Noson Calan Gaeaf eto yn 2024. Paratowch ar gyfer digwyddiad bwgan-digedig yn y gwyll, fiw ichi ei golli!

Mae Calan Gaea’n agosáu, ac mae’n bryd dod â’ch coblynnod a’ch bwganod bach i’r Amgueddfa am noson OFNadwy o ddifyr i’r teulu cyfan!

Crwydrwch yr Amgueddfa i ddod o hyd i’n gwesteion annaearol. Maen nhw i gyd yn gymeriadau o hanesion llên gwerin rhyfeddaf Cymru - fyddwch chi’n ddigon dewr i ddarganfod pwy sy’n cuddio ble?

Bob nos bydd y Dyn Gwiail yn llosgi. Dathlwch wrth groesawu’r gaeaf a gwnewch ddymuniad wrth i’r gwreichion dasgu!

Galwch heibio i’n gweithdai crefft iasol i greu llusernau, cymysgu diod hud a llawer mwy...

Cerddwch drwy dwnnel arswyd dychrynllyd. Dewch i mewn os meiddiwch chi! *

Dewch yn eich gwisgoedd mwyaf arswydus er mwyn dawnsio drwy’r nos yn llecyn newydd sbon Parti’r Ysbrydion. 

Dysgwch am y Dyn Gwiail yn y Talwrn. Gwnewch ddyn gwiail bychan i’w losgi yn ystod y diweddglo. 

Arhoswch am damaid i’w fwyta a diod ar Gornel Cilewent, lle gwelwch werthwyr bwyd stryd eleni. 

*Noder: gall y gweithgaredd hwn fod yn arbennig o frawychus i rai plant gan ei fod yn cynnwys actorion dychryn a synau uchel.  Bydd yr actorion yn teilwra lefel y dychryn ar gyfer pob plentyn.  Dylai mynediad i’r gweithgaredd hwn fod yn benderfyniad i’r oedolyn sy’n goruchwylio.

Dewch ag arian parod i’w wario yn y ffair a Marchnad y Crefftwyr.

TOCYNNAU

Mae pris eich tocyn yn cynnwys:

• Gweithgareddau gweithdy galw-heibio gan gynnwys: 

     - Gwneud Llusern

     - Cymysgu diod hud

     - Creu Dyn Gwiail bychan

• Arddangosiad o dros 50 o swêds cerfiedig hardd

• Mynediad i’r Profiad Twnnel Arswyd

• Mynediad i ddisgo Parti’r Ysbrydion 

Un tocyn yr un i'w hadbrynu yn y ffair (Plant: Un reid NEU un tro trwy'r drychau | Oedolion: Un tro ar y cnau coco yn unig)

• Cwrdd â chymeriadau Calan Gaeaf, storïwyr, a pherfformiadau

• Llosgi’r Dyn Gwiail am 8:30yh

• Parcio am ddim (ar ôl 4.30yh)

* Nid yw’n cynnwys gweithgareddau Marchnad y Crefftwyr.

Bydd bwyd a diod ar gael i’w prynu o gaffi’r Amgueddfa yn y Prif Adeilad, y Siop Sglodion ar y safle, a’r ardal fwyd stryd ar gornel Cilewent.

Anghenion Mynediad

Dim ond cŵn cymorth a ganiateir ar y safle ar gyfer y digwyddiad hwn.     
Caniateir pramiau a chadeiriau gwthio ar y safle ond ni cheir mynd â nhw i mewn i’r adeiladau hanesyddol.

Gweler ein gwefan am ein holl ganllawiau mynediad: https://amgueddfa.cymru/sainffagan/ymweld/mynediad/

Mae tocynnau Hynt ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn. 

 

Canllaw oedran

Digwyddiad i’r teulu yw hwn, gyda gweithgareddau addas i blant 5 - 12 oed.  Argymhelliad yn unig yw’r canllaw oedran hwn - mae croeso i blant iau ddod yn ôl eich disgresiwn.  Croesewir babanod dan 2 oed ond bydd angen tocyn baban di-dâl. Ni fydd babanod yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft ac ni chânt reid / gêm am ddim yn y ffair.

Gwybodaeth Bwysig

Ychydig iawn o le parcio sydd yn Sain Ffagan, ystyriwch rannu ceir.

  • Rhaid prynu pob tocyn ymlaen llaw. Mae cyfyngiad ar y niferoedd ac rydym yn disgwyl i docynnau werthu’n gyflym.
  • Mae’r digwyddiad a’i weithgareddau yn addas i blant 5 oed ac i fyny. Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
  • Rhaid gadael unrhyw gadair wthio y tu allan i’r adeiladau hanesyddol.
  • Dylid gwisgo dillad addas i’r tywydd. Bydd gofyn i chi aros y tu allan nes bod y drysau’n agor am 6 ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros y tu allan i’r adeiladau i gael mynediad i weithgareddau a gweithdai.
  • Mae pris eich tocyn yn cynnwys parcio am ddim.
  • Ni fydd modd cael ad-daliad am docyn ac ni ellir ei gyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.
  • Cewch gadarnhad o’ch tocynnau wedi ichi archebu.
  • Cewch ebost cyn y digwyddiad gyda Map o’r Safle Calan Gaeaf. Cofiwch lawrlwytho’r map a’i gadw cyn cyrraedd y safle. (Rydym yn dilyn polisïau cynaliadwyedd drwy dorri i lawr ar gyflenwadau argraffu).

 

Bydd gostyngiad o 10% i aelodau, dewch yn aelod heddiw

Cwestiynau Cyffredin Calan Gaeaf 2024 

Digwyddiadau