Digwyddiad:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Ymweliad i deras Rhyd-y-car a Sefydliad y Gweithwyr Oakdale

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wrth i ni ymweld â thai teras Rhyd-y-Car a Sefydliad y Gweithwyr Oakdale a gweld rhai o’r gwrthrychau perthnasol yn yr orielau a’r casgliad trin a thrafod.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
  • Cyfle i grwydro a mwynhau'r adeiladau hanesyddol, yr orielau a'r casgliadau 
  • Diod gynnes a sgwrs

Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le Mae'r daith yn para tua 2 awr, gyda digon o oedi a lluniaeth.

Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am ⁠hygyrchedd yn Sain Ffagan.

Mae'r cyfleoedd hyn yn agored i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu tocynnau’ i’r dde. Neu gallwch chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio'n broblem.

Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.

Gwybodaeth

7 Tachwedd 2024, 2pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia
A person in a dark jacket stands in a vintage room, looking at a display of ceramics and figurines on a wooden shelf, with a decorative plate hanging above. The room has wooden beams and a cozy, nostalgic atmosphere.
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Mwy o gynnwys

Oedrannau: Addas i bawb
Oedrannau: Addas i bawb

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau