Digwyddiad:Camwch i'r Gymraeg drwy Chwarae, Symud a Straeon

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Cymerwch eich camau cyntaf i'r Gymraeg gyda Blynyddoedd Cynnar Cymru wrth i ni archwilio symudiad, chwarae, adrodd straeon a llawer mwy yn Sain Ffagan. 

Mae'r sesiynau un awr hyn wedi'u hanelu at blant o bob oed, gyda sesiynau pwrpasol i blant 6 wythnos i 12 mis, a 12 mis ac i fyny a byddant yn defnyddio Sain Ffagan i ddathlu iaith, treftadaeth a diwylliant unigryw Cymru.

Tocynnau 

Mae'r sesiynau un awr hyn wedi'u hanelu at blant o bob oed, gyda sesiynau pwrpasol i blant 6 wythnos i 12 mis, a 12 mis ac i fyny a byddant yn defnyddio Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan i ddathlu iaith, treftadaeth a diwylliant unigryw Cymru.


Sesiwn 1: 6 wythnos i 12 mis (10.30am - 11.30am) 
Sesiwn 2: 12 mis+ (12pm - 1pm)


Iaith: Darperir y sesiynau yn Saesneg ond gyda ffocws cryf ar gyflwyno geirfa ac ymadroddion Cymraeg y gallwch eu defnyddio gartref gyda'ch plentyn trwy chwarae a symud.


Byrbryd: Bydd byrbryd a diod iach ar gael i blant a bydd te a choffi ar gael i rieni yn ystod y sesiwn. 
 

Gwybodaeth

24 Hydref 2024, 10.30am - 1pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

Ar Agor 10am-5pm bob dydd

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.

Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.

Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis am £30. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau