Cadair a Choron

Creu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

"Mae fy nyluniad wedi’i ysbrydoli gan nifer o wahanol gadeiriau y bûm yn ymchwilio iddynt yng nghasgliad Sain Ffagan. Mae’r dyluniad yn fodern gyda chyffyrddiadau traddodiadol, ond eto mae iddi bresenoldeb cadair seremonïol, diolch i elfennau megis sedd lydan a throm, breichiau agored a chefn uchel. Mae elfennau traddodiadol Gymreig y dyluniad yn cynnwys patrwm gwlân Cymreig a ddefnyddir i addurno’r gadair, sy’n seiliedig ar garthen wedi’i gwehyddu ym Melin Wlân Esgair Moel, Sain Ffagan.".

Chris Williams

Chris Williams yw dylunydd a saer cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Mae Chris yn gweithio fel cerflunydd ac yn aelod o’r Royal British Society of Sculptors. Mae’n byw yn Pentre ac mae ganddo weithdy ac oriel yn Ynyshir, y Rhondda.

Amgueddfa Cymru sy’n noddi cadair Caerdydd 2018, i ddathlu pen blwydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 70 oed.

Ysbrydolwyd Chris gan ffurf y cadeiriau coedyn yng nghasgliad Sain Ffagan. Gwnaed y gadair hon yn Nhrealaw, nepell o weithdy Chris.

Cafodd elfennau o’r gadair ei chreu yn adeilad newydd Gweithdy, yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Bu Chris yn arddangos ei waith yno i’r cyhoedd.

Carthen a wehyddwyd ym Melin Wlân Esgair Moel, un o’r adeiladau cyntaf i gael ei ail-godi yn Sain Ffagan ym 1952.

Creu Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

"Rwyf wastad wedi mwynhau gweithio gyda phren, sy’n ddeunydd mor amrywiol. I wneud y goron fe wnes i fewnosod darnau pren gyda llaw i mewn i’r arian geometrig er mwyn creu’r strwythur."

Laura Thomas

Mae Coron Eisteddfod Genedlaethol 2018 wedi’i chreu gan y gemydd Laura Thomas o Gastell-nedd. Prifysgol Caerdydd sy’n noddi’r goron.

Bu Laura’n gweithio am 400 awr i greu coron unigryw. Mae’n fodern, ond eto’n parchu traddodiadau’r Eisteddfod. Mae ei dyluniad yn deillio o’i phrif dechneg, gwaith parquet – mewnosod argaen pren i arian pur. Mae dros 600 mewnosodiad hecsagonol yn y goron, bob un wedi’i ychwanegu â llaw.

Mae gwaith coed yng ngwaed Laura – roedd ei thaid, Jack Owen, yn cerfio anifeiliaid bychan o bren.

Cadeirio’r Bardd

Cynhelir seremoni cadeirio’r bardd ar ddydd Gwener yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r gadair yn wobr am gyfansoddi awdl, sef cerdd ar y mesurau caeth.

Mae’n hen draddodiad. Pan gynhaliodd yr Arglwydd Rhys eisteddfod yng Nghastell Aberteifi ym 1176, cadair yr un oedd gwobrau’r prifardd a’r prif gerddor. Ychydig wedi sefydlu’r Eisteddfod Genedlaethol ar ddiwedd y 1800au, daeth yn draddodiad i lunio cadair bren yn arbennig ar gyfer y seremoni.

Yn ystod y 1920au a’r 1930au cyflwynwyd cadeiriau i’r Eisteddfod gan Gymdeithasau Cymreig o bob rhan o’r byd. Cymro oedd yn byw yn Shanghai, Dr John Robert Jones, gomisiynodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1933.

Fe gymerodd dros flwyddyn i gerfio cadair Shanghai. Fe’i gwnaed yng nghartref plant amddifad Catholig T’ou-se-we, ar gyrion y ddinas.

Ar gyfer Eisteddfod Caerdydd 1938, gwnaed cadair o ddyluniad syml gan Gwmni Dodrefn Bryn-mawr yng Nghymru. Enillydd y gadair oedd Gwilym R. Jones. Doedd neb yn deilwng o’r gadair pan ddychwelodd yr Eisteddfod i Gaerdydd ym 1960 nac ym 1978, ond cadeiriwyd Hilma Lloyd Edwards yn Eisteddfod Caerdydd 2008.

Coroni’r Bardd

Mae seremoni coroni’r bardd ar ddydd Llun yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwobr ydyw am gyfansoddi pryddest, sef cerdd ar fesur rhydd.

Ym 1867 y cyflwynwyd cystadleuaeth y bryddest i’r Eisteddfod Genedlaethol yn gyntaf. Medal, nid coron, oedd y wobr y flwyddyn honno.

Coroni Sion Eirian yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978. Yn 24 oed, ef oedd yr ieuengaf i ennill y goron. Yn 2014 enillodd Guto Dafydd y goron yn 24 oed hefyd.

Y tro cyntaf i fardd gael coron yn wobr am gyfansoddi pryddest oedd Eisteddfod Goronog Treffynnon ym 1869. Dyma lun o’r bardd buddugol, Mawddwy Jones, Dolwyddelan yn gwisgo’r goron.

Y goron gynharaf yng nghasgliad yr Amgueddfa yw coron y bardd Ceiriog (John Ceiriog Hughes), a enillodd yn Eisteddfod Fawr Llangollen, 1858. Daeth ei rieingerdd fuddugol ‘Myfanwy Fychan o Dinas Brân’ yn boblogaidd yng Nghymru oes Fictoria. Mae coron Ceiriog yn blethiad o frigau a dail bedw go iawn wedi eu hariannu. Mae’n debyg ei bod yn arferiad yn ardal Dyffryn Ceiriog i ferch roi cangen fedwen ar siâp coron i’w chariad.