Canllawiau Mynediad – Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn hygyrch i’n hymwelwyr er mwyn sicrhau bod y nifer ehangaf o bobl yn gallu mwynhau ein hamgueddfa, ein casgliadau a’n harddangosfeydd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau hygyrch a’r adnoddau ar draws y safle isod.

Mae mapiau o’r Amgueddfa ar gael wrth y Dderbynfa yn y brif neuadd. Gallwch chi lawrlwytho map cyn eich ymweliad.

Mae’r Amgueddfa am ddim i bawb. Efallai bydd tâl yn cael ei godi am rai arddangosfeydd a gweithgareddau. Gallwch chi archebu tocynnau wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Datganiad hygyrchedd ein gwefan

Rydyn ni’n falch o fod yr amgueddfa gyntaf i ddod yn aelod o’r cynllun Mynediad Cenedlaethol, sef Hynt. P’un a ydych chi’n unigolyn neu’n sefydliad, gallwch chi gael tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion ar gyfer rhai o’n digwyddiadau a’n harddangosfeydd.

Eisiau cofrestru?

Menter gan Gyngor Celfyddydau Cymru sydd wedi'i rheoli gan Creu Cymru, mewn partneriaeth â Diverse Cymru yw Hynt; Ewch i wefan Hynt i gael gwybod sut i ymaelodi -https://www.hynt.co.uk/cy/ymunwch/dod-yn-aelod-o-hynt/ 

Oes cerdyn Hynt gennych chi yn barod?

Gallwch chi archebu tocynnau gyda'ch cerdyn Hynt yn y ffyrdd canlynol:

Wyneb yn wyneb ym mhob un o'n safleoedd: bydd ein Cynorthwywyr Amgueddfa cyfeillgar wrth y Dderbynfa yn hapus i'ch helpu.

Ar-lein: Ychwanegwch Rif eich Cerdyn Hynt at eich cyfrif drwy glicio ar y ddolen hon. Nodwch, gall hyn gymryd hyd at 24 awr i'w brosesu.

Pan fydd eich cyfrif wedi diweddaru gyda'ch manylion Hynt, mewngofnodwch i'ch cyfrif a gallwch archebu eich tocynnau fel arfer. Bydd tocynnau Hynt yn ymddangos wrth ddewis tocynnau. Yr oll sydd angen i chi wneud yw dangos eich Cerdyn Hynt yn y digwyddiad, a dyna ni!

*Sylwer – byddwch chi ond yn gallu ychwanegu’r nifer benodol o docynnau Hynt at eich archeb a osodwyd yn ystod y broses ymgeisio.

Er mwyn eich helpu chi i gynllunio eich ymweliad, cymerwch gip ar ein stori weledol. Mae’n cynnwys ffotograffau a gwybodaeth i ddangos beth allwch chi ei ddisgwyl o’ch ymweliad â’r Amgueddfa.

Mynedfa ac allanfa’r Amgueddfa

Mae’r brif fynedfa i’r Amgueddfa trwy’r prif adeilad, ar bwys maes parcio’r Amgueddfa. Mae mynediad gwastad i’r adeilad a gallwch chi fynd allan i safle’r Amgueddfa trwy’r allanfa wastad ar y llawr gwaelod, neu fynd ar un o’r ddau lifft i’r trydydd llawr a mynd allan trwy’r drysau cefn i dir awyr agored yr Amgueddfa.

Parcio hygyrch

Mae digon o le parcio hygyrch ar gael o flaen y prif adeilad. Mae parcio am ddim i ddeiliaid bathodyn glas.

Adegau Tawel

Gall yr Amgueddfa fod yn brysur ar benwythnosau a gwyliau banc. Yr adegau tawelaf i ymweld yw diwrnodau’r wythnos yn ystod y tymor ar ôl 3pm. Mae’r Amgueddfa yn cau am 5pm.

Ardaloedd tawel

Mae tir agored Sain Ffagan yn eang ac mae digonedd o fannau tawelach, gan gynnwys yr ardaloedd coediog tuag at y Garreg Fawr a Llys Llywelyn, a gerddi’r Castell. Mae’r orielau dan do parhaol, sef Oriel Cymru..., Oriel Byw a Bod a Gweithdy yn fannau tawelach hefyd.

Lifft a mynediad i’r orielau

Mae orielau Sain Ffagan i fyny’r grisiau yn y prif adeilad.

Mae dau lifft yn y prif adeilad sy’n rhoi mynediad i’r orielau ar lawr 3.

Llawr 1 

Neuadd Groeso  
Siop   
Bwyty’r Gegin  
Toiledau a Lle Newid   
Mynediad gwastad i’r Amgueddfa awyr agored

Llawr 2

Canolfan Ddysgu Weston (i gadw lle, cysylltwch â’r tîm Addysg ar (029) 2057 3500)  
Toiledau a Lle Newid

Llawr 3 

Oriel Cymru... ac Oriel Byw a Bod   
Oriel arddangosfeydd dros dro  
Allanfa i’r Amgueddfa awyr agored

Goleuadau a thymheredd

Mae’r tymheredd a lefelau goleuadau yn amrywio o un adeilad hanesyddol i’r llall. Efallai y bydd tân yn rhai o’r adeiladau y byddwch chi’n ymweld â nhw. Does dim llawer o olau mewn nifer o'r adeiladau hanesyddol, er mwyn adlewyrchu sut fyddai'r adeiladau wedi edrych yng ngwahanol gyfnodau hanesyddol.

Mae rhan fawr o’r Amgueddfa yn yr awyr agored, ac mae’n syniad da dod â dilledyn ychwanegol a chôt law gyda chi fel y byddwch chi’n barod ar gyfer pob tywydd.

Llawr anwastad

Amgueddfa awyr agored fawr yw Sain Ffagan ac mae natur hanesyddol yr Amgueddfa yn golygu bod lloriau ac arwynebau anwastad. Mae rhai o’r llwybrau ar ochr y Castell yn yr Amgueddfa yn serth ac yn anwastad.

Toiledau Hygyrch

Mae toiledau hygyrch i lawr y grisiau yn y prif adeilad, ac ar bwys Canolfan Ddysgu Weston ar lawr 2.

Mae toiledau hygyrch ar gael hefyd ger Tai Teras Rhyd-y-car, yn nhiroedd y Castell, yn Sefydliad y Gweithwyr Oakdale ac i lawr y grisiau yn Gweithdy. Mae’r toiledau yn Gweithdy yn yr islawr a gallwch chi eu cyrraedd trwy lifft. Cyfeiriwch at y map o’r safle neu gofynnwch i aelod o staff.

Cyfleusterau newid cewynnau

Mae cyfleusterau newid cewynnau yn y prif adeilad ar y llawr gwaelod, yn y toiledau ar bwys Canolfan Ddysgu Weston ar lawr 2, yn Gweithdy ac yn y toiledau ger Tai Teras Rhyd-y-car.

Lleoedd Newid

Yn ogystal â’n toiledau hygyrch, mae gennym ni ddau gyfleuster Lle Newid ar y safle – un yn y prif adeilad ac un yn Gweithdy. Mae ein Lleoedd Newid yn cynnwys offer codi a gwely y mae modd ei addasu. Gallwch chi gael mynediad i’r toiled trwy fenthyg allwedd Radar.

Dewch o hyd i Leoedd Newid eraill

Benthyg cadair olwyn

Mae nifer o gadeiriau olwyn cyffredin ar gael i’w benthyg am ddim o’r Dderbynfa yn y prif adeilad. Mae’r rhain yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Allwn ni ddim darparu cymorth staff o amgylch yr Amgueddfa ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Allwch chi ddim mynd â chadeiriau olwyn allan o diroedd yr Amgueddfa.

Sgwteri symudedd

Rydyn ni’n croesawu sgwteri symudedd a gallwch chi eu defnyddio yn yr Amgueddfa.

Does gennym ni ddim sgwteri symudedd i’w llogi, ond rydyn ni’n cynnig gwasanaeth bygi i helpu ymwelwyr i fynd o gwmpas y safle. Gallwch chi archebu’r gwasanaeth hwn trwy ffonio’r Amgueddfa o leiaf bythefnos cyn eich ymweliad.

Clirio’r safle mewn argyfwng

Mae’n annhebygol y bydd larwm yn canu yn ystod eich ymweliad. Os bydd un yn canu, peidiwch â phoeni – dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau gan aelodau staff, a fydd yn eich tywys chi i’r allanfa ddiogel agosaf.

Seddi

Mae llawer o feinciau ar draws tiroedd yr Amgueddfa. Mae seddi y tu allan i’r prif adeilad a Gweithdy. Mae seddi y tu mewn i’r caffis, yn y prif adeilad, yn Gweithdy ac yn y Castell.

Seiniau Cyfoethog

Byddwch chi’n clywed llawer o wahanol seiniau yn ystod eich ymweliad.

Yn efail y gof, byddwch chi’n clywed morthwyl yn taro metel.

Yn y felin flawd, y felin wlân ac ar y fferm, byddwch chi’n clywed sŵn peiriannau. Efallai byddwch chi’n clywed anifeiliaid fel defaid a gwartheg ar y fferm hefyd.

Efallai byddwch chi’n clywed piano yn cael ei ganu yn Oriel Byw a Bod ac i fyny’r grisiau yn Sefydliad y Gweithwyr Oakdale.

Arogleuon Cyfoethog

Mae llawer o arogleuon diddorol o amgylch yr Amgueddfa, gan gynnwys arogl bara ffres yn y popty, cwrw yng Ngwesty’r Vulcan ac anifeiliaid fferm ar Fferm Llwyn-yr-eos.

Cŵn gwasanaeth

Rydyn ni’n deall y bydd angen i rai o’n hymwelwyr gael cymorth ci gwasanaeth ac rydyn ni’n falch o groesawu cŵn gwasanaeth sydd wedi’u hyfforddi’n briodol. Dylai cŵn gwasanaeth gael eu goruchwylio a’u cadw dan eich rheolaeth drwy gydol eich ymweliad, gan aros ar dennyn a gwisgo’r tabard neu’r harnais priodol, yn ddelfrydol. Gofynnwch i aelod o staff eich cyfeirio at y toiled/ardal mynd i’r toiled agosaf. Mae dŵr yfed ar gael ar gais o’r siop goffi.

Dolenni Sain

Mae dolenni sain ar gael wrth y Dderbynfa yn y prif adeilad, yn siop yr Amgueddfa, ac yn nerbynfa Canolfan Ddysgu Weston ar lawr 2 y prif adeilad.

Bob mis Medi, mae Sain Ffagan yn cynnal Gŵyl Fwyd flynyddol Amgueddfa Cymru. Mae’r digwyddiad yn cynnwys dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft, ynghyd â gwledd o weithgareddau i’r teulu cyfan. Mae gwasanaeth cyfieithu Iaith Arwyddion Prydain ar gael yn rhan o raglen yr ŵyl.

Teithiau sain ddisgrifiad

Gallwn ni gynnig teithiau Sain Ddisgrifiad am ddim a chymorth tywys i ymwelwyr unigol. Gweler y dudalen hon am fanylion Teithiau Sain Ddisgrifiad (amgueddfa.cymru)