Grwpiau
RHAID i bob grŵp archebu cyn ymweld.
Am fwy o fanylion:
Ffôn: (029) 2057 3500 neu
e-bostiwchMae'n bosibl cynnal ymweliadau grŵp yn ystod ein horiau agor arferol ac mae mynediad am ddim.
Archebwch le i'ch grŵp ymlaen llaw dros y ffôn neu e-bost er mwyn cael y manteision canlynol:
- Fynediad am ddim
- Gostyngiad o 10% yn siop (rhaid gwario o leiaf £5 y pen) ar gyfer eich ymwelwyr
- Lluniaeth am ddim ar gyfer gyrrwr y bws (ar ôl dangos cerdyn adnabod).
Sylwer nad yw'r gostyngiadau arlwyo a manwerthu yn berthnasol i grwpiau addysgol. Rhaid i unrhyw blentyn dan 14 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Cwrdd â’r Curadur – Sgyrsiau i’ch grŵp
Gwnewch yn fawr o’ch ymweliad â’r amgueddfa drwy drefnu sgwrs Cwrdd â’r Curadur ar gyfer y grŵp. Dysgwch fwy am hanes diddorol Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a’r datblygiadau cyffrous sydd ar y gorwel.
- Arbenigwyr o dimau Curadu a Chadwraeth yr Amgueddfa fydd yn cynnal y sgyrsiau, fydd tua 30 munud yr un. Byddwch yn cael cyflwyniad gwych i’r Amgueddfa a chyngor ar yr adeiladau sy’n rhaid eu gweld.
- Diolch i’r lifft, mae mynediad heb risiau i’n darlithfa, ac mae’n agos i’n llefydd parcio a’n cyfleusterau hygyrch. Perffaith ar gyfer grwpiau sydd am fwynhau ymweliad mwy hamddenol.
Cost yn ôl maint y grŵp (prisiau’n cynnwys TAW):
- Hyd at 30: £120
- 30-60: £180
- 60-90: £240
- 90-120: £300
Telerau ac Amodau:
- Rhaid rhoi rhybudd o bythefnos o leiaf wrth archebu sgyrsiau Cwrdd â’r Curadur.
- Byddwn yn pennu awr benodol ar gyfer eich grŵp. Gofynnwn i chi gyrraedd yn brydlon a mynd yn syth at y dderbynfa.
- Bydd eich sgwrs tua 30 munud o hyd (gan gynnwys sesiwn holi ac ateb i gloi).
- Ni allwn warantu lle os ydych yn cyrraedd yn hwyr, ac ni fyddwn yn cynnig ad-daliad.