Lleoliad
Lleoliad
Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru 4 milltir i'r gorllewin o ganol dinas Caerdydd, oddi ar yr A4232.
Os ydych yn defnyddio teclyn llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post CF5 6XB.
Mewn car
Os ydych yn cyrraedd mewn car bydd angen i chi dalu wrth gyrraedd. £7 y diwrnod. Tocyn tymor 12 mis am £30.
AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer.
Ar fws
Gwasanaeth 32 Cardiff Bus – mae’r bws yn stopio yn maes parcio’r amgueddfa
Gwasanaeth 320 First Cymru – stopio ym mhentref Sain Ffagan
I drefnu'ch taith, ewch i Traveline Cymru neu ffoniwch 0800 464 0000.
Ar drên
Parc Waun-gron yw’r orsaf drenau agosaf, 2 filltir o Sain Ffagan. Trenau Trafnidiaeth Cymru sy’n cynnal y gwasanaeth.
Mae Parc Waungron ger y brif lwybr fysiau i Sain Ffagan. Ewch i Traveline Cymru i drefnu’ch taith.
- Gallwch weld amserlen y trenau yn National Rail Enquiries neu drwy ffonio 03457 484950.
- Trawsnewid Trafnidiaeth Ffôn 0333 321 1202.
Ar feic
Llwybr Elái yw'r prif lwybr beiciau i'r Amgueddfa o ganol dinas Caerdydd. Mae arwyddion ar y cymal rhwng y Tyllgoed a’r Amgueddfa, cymal heb draffig yn dilyn llwybr tawel ar hyd yr afon.
Mae digonedd o le i glymu beiciau.