Cwpan a Phêl
Roedd y gêm Cwpan a Phêl yn boblogaidd iawn yn Ffrainc yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Yr enw am y gêm oedd 'Bilboquet'. Datblygodd i fod yn ffasiynol iawn yn ystod teyrnasiad y Frenhines Elisabeth 1 pan ddechreuwyd ei alw'n Cwpan a Phêl. Yn ôl y sôn, roedd hyd yn oed y Frenhines a'u gw?r llys yn mwynhau chwarae gyda'r tegan hwn! Chwaraewyd â Chwpan a Phêl ymhob cwr o'r byd. Chwaraeai'r Esgimos â Chwpan a Phêl ynghanol yr eira rhewllyd gan eu bod yn ei weld fel defod i brysuro dychweliad yr haul.
Awgrym am weithgaredd: Gwneud cwpan a phêl
Byddwch angen:
- Pot iogwrt gwag
- Darn o gordyn (tua 70cm o hyd)
- Darn o ffoil
Clymwch gwlwm yn un pen o'r cordyn. Gwnewch dwll bach yng ngwaelod y pot iogwrt. Bwydwch y cordyn drwy'r twll o'r tu mewn i'r pot iogwrt. Gosodwch ben arall y cordyn ar y ffoil. Gwasgwch y ffoil i wneud pêl. Nawr taflwch y bêl arian gan geisio'i dal yn y cwpan!!