O’r Pwll i’r Pwll

Y diwydiant a ddaeth o’i flaen a greodd y pwll hwn. Byddai’r dŵr glaw yn llifo oddi ar y domen ac yn ffurfio pwll, gan roi cyfle i fywyd newydd sefydli cytrefi. Heddiw, mae’r pwll yn llawn bywyd ac yn rhoi cartref a bwyd i nifer o anifeiliaid a phlanhigion. Bydd nifer o adar a mamaliaid yn yfed, ymolchi a bwyta’r pryfed sy’n byw yn y pwll.

Gwas y neidr, Madfall y dŵr a Tegeirian

Dyma rai o’r planhigion ac anifeiliaid sydd i’w gweld yn y pwll

  • Chwilen blymio
  • Tegeirian-y-gors deheuol
  • Ceffyl dŵr bolwyn
  • Cynffon y gath
  • Malwoden pwll
  • Ysbigfrwynen
  • Gwas y neidr
  • Deilen gron y gors
  • Mursen
  • Alaw Canada
  • Rhiain y dŵr
  • Pysen-y-ceirw fawr
  • Chwilen chwyrligwgan
  • Glaswellt y bwla
  • Madfall gyffredin
  • Madfall ddŵr baflog
  • Broga cyffredin
  • Chwain dŵr
  • Berdysyn dŵr ffres
  • Sgorpion dŵr

Allwch chi weld unrhyw blanhigion neu anifeiliaid?

Llawn bywyd!

Gall pyllau fod â statws cadwraeth uchel. Mae nhw’n ganolbwynt i fywyd gwyllt am eu bod yn medru cynnal cannoedd o blanhigion ac anifeiliaid mewn ardal cymharol fach.

Yn rhyfedd iawn, mae cyfoeth o fywyd gwyllt mewn pyllau ger tomenni glo yn aml. Rhan o’r rheswm am hyn yw nad oes llawer o faetholynnau yno, sy’n galluogi i lawer o rywogaethau gydfyw. Mae pyllau ar ffermydd yn cael eu heffeithio gan wrtaith yn aml, ac mae un neu ddwy rywogaeth gystadleuol yn manteisio. Mae astudiaethau wedi dangos hefyd bod gan byllau yn ne Cymru fwy o rywogaethau planhigion na’r cyfartaledd Prydeinig.

Mae tair rhywogaeth madfall y dŵr ym Mhrydain: cribog, cyffredin a palfog.

Y mwyaf yw’r fadfall gribog. Gall dyfu hyd at 17 cm o hyd ac mae cyfraith gwlad yn ei warchod. Mae angen dŵr agored ar y fadfall gribog ar gyfer arddangosiadau canlyn a llystyfiant addas i ddodwy wyau. Does dim cofnod o’r fadfall gribog yma, ond mae’r amodau yn y pwll hwn yn berffaith. Efallai y byddwch chi’n medru gweld y rhywogaeth yma yn Nhomen Coity yn y dyfodol.