Trysor

Mae gan Amgueddfa Cymru rôl gyfreithiol yn adrodd ar Drysor sy'n cael ei ganfod yng Nghymru. Bydd ei churaduron archaeoleg yn darparu cyngor ac argymhellion i'r Crwner bob blwyddyn ar ganfyddiadau gan aelodau'r cyhoedd sy'n gymwys yn gyfreithiol fel Trysor.

Adroddiadau 2007-22 (n=525)
Allwedd: gwyn = dim achosion; gwyrdd = 1 achos; oren = 2-5 achos; coch = 6 neu fwy o achosion i bob cymuned

© Hawlfraint y Goron 2023 Trwydded OS 100025805.

 

Trysor sy'n cael ei ganfod yng Nghymru bob blwyddyn gan aelodau'r cyhoedd

Ar hyn o bryd, mae rhwng 60 ac 80 achos Trysor yn cael eu canfod a'u hadrodd yng Nghymru bob blwyddyn.

Ers 1997, mae tua 700 o ganfyddiadau trysor wedi cael eu gwneud yng Nghymru, yn bennaf gan ddefnyddwyr datgelyddion metel. Mae’r canfyddiadau yma’n adnodd diwylliannol o bwys cynyddol i Gymru sy'n ein helpu i ailysgrifennu hanes cynnar Cymru a chreu cysylltiadau â lleoliadau a thirweddau.

Mae Trysor wedi ei warchod yn gyfreithiol gan Ddeddf Trysor 1996, a chyfrifoldeb Crwneriaid yng Nghymru yw penderfynu â yw canfyddiadau gaiff eu gwneud yng Nghymru yn Drysor neu beidio. ⁠Bydd curaduron yn Amgueddfa Cymru yn darparu cyngor ac argymhellion i'r Crwneriaid ar Achosion Trysor. Mae'r rhan fwyaf o eitemau neu grwpiau Trysor wedi cael eu caffael gan amgueddfeydd lleol ledled Cymru er lles cenedlaethau heddiw ac yfory.

Mae Trysor wedi cael ei ganfod ym mhob sir ac awdurdod lleol yng Nghymru.

    Pa ganfyddiadau sy'n cael eu cyfri'n Drysor?

  • Grwpiau o arfau ac offer efydd cynhanesyddol, wedi'u claddu gyda'i gilydd (yr Oes Efydd a'r Oes Haearn)
  • Gemwaith aur, unigol neu mewn grŵp, o'r Oes Efydd
  • Grwpiau a chelciau ceiniogau o'r oes Haearn, Oes y Rhufeiniaid, y Canoloesoedd ac oes y Tuduriaid a'r Stiwartiaid (dros 300 mlwydd oed)
  • Broetshsys canoloesol aur ac arian
  • Modrwyau aur ac arian dros 300 mlwydd oed
  • Ffitiadau gwisgoedd, bathodynnau, botgynau, gwniaduron a seliau, aur ac arian a dros 300 mlwydd oed