Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mike Smith, canfyddwr cerbyd rhyfel wedi'i gladdu yn Sir Benfro yn 2018.
Diffiniad o Drysor
(mae Deddf Trysor 1996 yn berthnasol i ganfyddiadau yng Nghymru a Lloegr)
Mae'r canfyddiadau isod o geiniogau ac arteffactau yn Drysor dan Ddeddf Trysor 1996 os ydynt wedi'u canfod ar ôl 24 Medi 1997 (neu, yn achos y trydydd categori, os ydynt wedi'u canfod ar ôl 1 Ionawr 2003)
Mae gwrthrych (arteffact) neu geiniog yn 'rhan o'r un canfyddiad' â gwrthrych neu geiniog arall os yw'n cael ei ganfod yn yr un lleoliad (h.y. mewn perthynas uniongyrchol), neu wedi cael ei adael neu ei gladdu gyda'r gwrthrych arall yn wreiddiol. Yn aml, gall canfyddiadau ategol gael eu gwasgaru o'r man claddu gwreiddiol, fel arfer oherwydd tarfu diweddar, fel gwaith fferm.
Michael Evans, canfyddwr (ar y chwith), mewn digwyddiad trysor arbennig a drefnwyd gan Amgueddfa Tredegar a'r Cylch yn 2018, pan dderbynion nhw ei ganfyddiad broetsh arian canoloesol fel eu caffaeliad cyntaf o drysor i'w casgliad.
Diffiniad ychwanegol o Drysor (ers 30 Gorffennaf 2023)
Mae diffiniad ychwanegol newydd o Drysor wedi'i seilio ar bwysigrwydd eithriadol y gwrthrych yn cael ei ychwanegu at y diffiniadau presennol. Y bwriad yw diffinio gwrthrychau sy'n rhoi cipolwg rhagorol ar agwedd o hanes, archaeoleg neu ddiwylliant cenedlaethol neu ranbarthol o ganlyniad i'w prinder, neu ffactorau eraill.
Bydd gwrthrych yn bodloni'r diffiniad oherwydd un neu fwy o'r ffactorau canlynol:
a. Yn ehangu ar yr esiamplau hysbys yn y DU o wrthrych penodol, ffurf benodol, arddull celfyddydol, neu dystiolaeth o dechneg gynhyrchu, ac yn darparu cipolwg nodedig arnynt.
b. Mewn cyflwr llawer gwell neu mwy cyflawn nag esiamplau hysbys eraill, ac felly'n rhoi cipolwg nodedig ar agwedd o hanes, archaeoleg neu ddiwylliant cenedlaethol neu ranbarthol.
c. Wedi ei ddefnyddio, ei drin neu ei addasu mewn modd prin neu anarferol yn ystod ei oes, ac felly'n rhoi cipolwg nodedig ar agwedd o hanes, archaeoleg neu ddiwylliant cenedlaethol neu ranbarthol.
Mae'r diffiniad yn berthnasol i unrhyw wrthrych metel neu geiniog sy'n hŷn na 200 mlwydd oed, sydd ddim yn bodloni'r diffiniadau eraill o Drysor ond sy'n bodloni'r diffiniadau pwysigrwydd eithriadol uchod.
Mae ceiniogau unigol yn Drysor os ydyn nhw'n bodloni'r diffiniadau pwysigrwydd eithriadol.