Archifau'r dyfodol: Cynrychioli cymunedau bwriadol yng Nghymru fel glasbrint ar gyfer diwylliannau cydweithredol, teg a gwydn

Ysgoloriaeth Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol (CDP) yr AHRC

Amgueddfa Cymru / Prifysgol Metropolitan Caerdydd⁠

Golygfa gardd heulog gyda phlanhigion corn tal yn y blaendir a chwt gwellt crwn bach wedi'i osod ymhlith coed a llwyni y tu ôl.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Amgueddfa Cymru yn falch o gyhoeddi ysgoloriaeth ymchwil a ariennir yn llawn o fis Hydref 2026 dan Gynllun Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).

Nod y project hwn yw ymchwilio i gymunedau bwriadol yng Nghymru a'u dogfennu. Mae'r cymunedau hyn yn arddel gwahanol ffyrdd o fyw i'r diwylliant defnyddwyr cyffredin ac wedi'u tangynrychioli mewn casgliadau amgueddfa. Mae dogfennu eu bywydau, credoau, ac arferion yn cynnig cyfle i ysbrydoli myfyrio ehangach ar gyfrifoldeb amgylcheddol a byw yn gymunedol, tra'n cynyddu amrywiaeth o fewn casgliadau cenedlaethol.

Bydd y project yn cyflawni:

  • Casgliad clyweledol a ffisegol, fydd yn sylfaen i ymchwil ac ymatebion creadigol yn y dyfodol.
  • Ymchwil doethurol gwreiddiol fydd yn defnyddio dull mwy-na-dynol i archwilio sut mae cymuned a thirwedd yn plethu.
  • Fframwaith moesegol ar gyfer creu casgliadau ar y cyd, sy'n berthnasol i amgueddfeydd, archifau a sefydliadau diwylliannol.
  • Mae’r dyfarniad gan AHRC yn talu ffioedd dysgu hyd at gost gradd UKRI llawn amser (myfyrwyr 'cartref') ar gyfer graddau PhD a chostau byw llawn ar gyfer holl fyfyrwyr. Y Lleiafswm Tâl Gofynnol Doethurol Cenedlaethol ar gyfer 2025/26 yw £21,805 (yn codi yn unol â UKRI) yn ogystal â thaliad costau byw CDP o £600/y flwyddyn.

    Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus dreulio amser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru (Amgueddfa Cymru).

    Nid yw'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer yr ysgoloriaeth ymchwil hon. Bydd yr ymgeisydd yn cael eu cefnogi gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd i gael gwiriad DBS trylwyr.⁠ Ni fydd y myfyriwr yn cael eu cyflogi fel aelod o staff Amgueddfa Cymru.

    Dyddiad cau: Rhaid i chi gyflwyno eich cais erbyn 5pm BST ar ddydd Llun 1 Mehefin 2026.

    Sut i wneud cais: Gwnewch gais ar-lein ar gyfer y project hwn yma.