Digwyddiad:Dawnsio Dandiya
Dewch i ymuno â'r dathliadau
Gŵyl boblogaidd o India yw Dussehra sy'n cael ei dathlu gan Hindŵaid ym mhedwar ban byd. Mae hyn yn dilyn naw diwrnod o ddathlu o'r enw Navratri (naw noson yn Sanskrit). Mae'r ŵyl yn dathlu buddugoliaeth y da dros y drwg.
Un o nodweddion diddorol Navrati yw'r Garba a'r Dandiya Ras – dawns i ddynion a menywod mewn un cylch mawr. Mae'r Dandiya Ras, Dawns y Ffyn, yn cael ei pherfformio gyda ffyn bach o bren sgleiniog. Wrth iddyn nhw droelli ac ymgolli yn rhythm y ddawns, bydd y dynion a'r menywod yn taro'r dandiyas at eu gilydd, gan ychwanegu at hwyl y naw noson yn arwain at Dussehra ar y degfed diwrnod.
Gyda'r ddawnswraig Kathak broffesiynol a'r artist cymunedol, Sarita Sood.
Sarita Sood – Proffil Artist
Mae Sarita Sood yn artist dawns proffesiynol hyfforddedig sy'n arbenigo yn y ffurf ddawns Indiaidd, Kathak, un o dechnegau dawns clasurol mwyaf deinamig a syfrdanol India.
Enillodd Sarita radd 5 mewn Dawns Indiaidd Glasurol o Brifysgol Bhatkhande Lucknow yng Ngogledd India.
Yn rhan o'i gradd, arbenigodd hefyd mewn dawnsfeydd gwerin a chyfoes o India gan gynnwys dawnsio Bollywood sydd mor boblogaidd.
Ers graddio ym 1990, mae hi wedi dysgu'n helaeth (oedolion a phlant), hwyluso a choreograffu perfformiadau dawns a pherfformio fel artist unigol rhyngwladol. Mae hi wedi gweithio gyda sefydliadau cymunedol ac elusennol amrywiol a llawer o ysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau.
Sylwch: bydd angen tocyn ar oedolion a phlant ar gyfer y digwyddiad hwn.
Mae rhaglen arddangosfeydd ac ymgysylltu cyhoeddus Amgueddfa Cymru yn bosib diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Postcode Lottery
Gwybodaeth
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 16 Hydref 2026 | 19:00 | Gweld Tocynnau |
Ymweld
Mynediad
Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.
Canllaw MynediadParcio
Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.
Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, siopa
- Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.
Lleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd