Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni yng ngardd gymunedol GRAFT ar 9 Medi fel rhan o Ŵyl Fwyd Sain Ffagan, am bryd o fwyd tymhorol wedi’i goginio yn ein popty tân coed a adeiladwyd gan y gymuned.
Byddwn yn croesawu cynhyrchwyr bwyd lleol, llysgenhadon a phrojectau cymunedol o’r ddinas ar gyfer gwledd go wahanol.
Ymysg y gwesteion bydd Vetch Veg, Matt’s Cafe, Summit Good, Room to Grow, Bwyd Abertawe, y ffermwr organig Gerald Miles, a’r ymchwilydd ac addysgwr bwyd Dee Woods.
Trwy’r noson bydd cerddoriaeth fyw, trafodaethau am gymuned a’r hinsawdd, a chyfle i ystyried y rhwydwaith fywiog o gynhyrchwyr a llefydd gwyrdd sy’n datblygu ar hyd a lled Abertawe. Beth yw dyfodol ein bwyd? Sut allwn ni greu system fwyd leol sy’n deg ac yn gynaliadwy? Wedi’i guradu gan Owen Griffiths gyda’r artist a’r cogydd Thom O’Sullivan Mwy o newyddion am ein gwesteion a cherddoriaeth fyw ar ein instagram a chyfryngau cymdeithasol Instagram @graft____
Tocynnau £15pp yn cynnwys bwyd ac un ddiod, (bar ar gael hefyd)
TOCYNNAU
BWYDLEN
Wrth gyrraedd - Pwmpen wedi’i rhostio yn y popty, winwns coch wedi’i biclo a hadau ffenigl ar fara wedi’i dostio.
Y pryd bwyd,
- Focaccia cartref gyda phesto cnau Ffrengig a lofaets.
- Moron a ffenigl wedi’u pobi gyda mêl GRAFT.
- Slaw mayonnaise garlleg wedi’i goginio’n araf.
- Stiw pys carlin a phupur coch.
- Tatws yn y popty.
* Popeth yn fegan, heblaw mêl GRAFT. Bydd dewis arall ar gael.
* Alergenau yn cynnwys - glwten, mwstard, pupur, soia, cnau Ffrengig,
ffenigl, tomatos.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd