Digwyddiad: Haf o Hwyl - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau


Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru

Dewch draw i'r Amgueddfa a chymryd rhan yn y gweithdai a pherfformiadau sydd wedi cael eu trefnu fel rhan o'r Haf o Hwyl. Mae'r ŵyl wedi cael ei drefnu fel rhan o'r prosiect Haf o Hwyl, sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Sialens Adeiladwaith Mawr XL
28 Gorffenaf – 1 Medi (Pob dydd Iau yn ystod yr haf) 12.30 – 3.30pm
Galw holl egin beirianwyr! Defnyddia dy sgiliau dylunio ac adeiladu i gwblhau sialens XL Wales. Defnyddir cit adeiladu K’NEX ar gyfer pob sialens. Rho dy feddwl ar waith!
Cyflawnwyd gan XL Wales
Cliciwch y teitl am mwy o wybodaeth
9–10 a 13–14 Awst 2022, 12.30yp - 3.30yp
Wyddoch chi fod gan bob criw o fôr-ladron eu baner unigryw eu hunain? Sut fyddai'ch un chi'n edrych? Ymunwch â ni i ddylunio a chreu eich baner eich hun i gyfleu eich personoliaeth.
Cliciwch y teitl am mwy o wybodaeth
Sioe Morladron - Bartu Ddu
20 Awst 2022, 1-3yp
Dewch i gael eich syfrdanu gan ein drama o’r moroedd mawr. Defnyddiwch eich dychymyg wrth glywed am un o fôr-ladron enwocaf a drwg-enwog Cymru - Barti Ddu. Dwyieithog. 6 + oed
Cliciwch y teitl am mwy o wybodaeth
Gwasg Argraffu - Cardiau Post
23–24 a 27–28 Awst 2022, 12.30 yp- 3.30 yp
Cyn dyfeisio'r wasg argraffu, roedd rhaid ysgrifennu pob testun gyda llaw. O ganlyniad, roedd y ddyfais yma yn un o rhai mwyaf dylanwadol ei gyfnod. Rhowch gynnig ar greu eich cerdyn post eich hun gan ddefnyddio gwasg ein Hamgueddfa, a'i bersonoli i'w anfon at rywun arbennig dros yr haf.
Cliciwch y teitl am mwy o wybodaeth
Mae'r gweithgareddau yma yn cael eu threfnu gan Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru fel rhan o fenter Haf o Hwyl, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.