Digwyddiadau

Digwyddiad: Academi Gofodwyr Brainiac

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
5 Tachwedd 2022, 2yp a 4yp
Pris Oedolion £5, plant £5
Addasrwydd Teuluoedd 6+ oed

Ymunwch â’r Brainiacs, ymgollwch yn y Daith i'r blaned Mawrth a gweld sut ofodwr ydych chi. Byddwch yn barod amdani! Mae tîm Brainiac yn ôl gydag Academi Gofodwyr Brainiac newydd sbon a’r profiad mwyaf anhygoel, arallfydol erioed. 

Y flwyddyn yw 2037 ac mae’r Tîm Brainiac yn barod i ddarganfod bydoedd newydd a’r blaned goch ond mae arnyn nhw angen eich help chi i ddylunio, adeiladu a lansio eich roced eich hun. 

Bydd y gweithdy yn eich trochi mewn profiad ymarferol, di-stop, 60 munud o hyd, dan arweiniad y Brainiacs, ac yn rhoi cyfle i’n gofodwyr ifanc a’u teuluoedd brofi eu sgiliau Dylunio Roced, Peirianneg ac archwilio’r Gofod! 

Bydd tîm Brainiac yn eich helpu i adeiladu eich llong ofod orau posibl ond dewiswch eich deunyddiau crefft yn ofalus, bydd angen deall gwyddoniaeth y gofod a chofiwch fod amser yn brin wrth i’r lansiad agosáu. 

Rhaid i chi ddewis – cyflymder neu bŵer Dewiswch yn ddoeth, profwch eich hun fel Gofodwr Brainiac a dewch yn aelod swyddogol o Academi Brainiac!

 

Archebu eich Tocyn

 

Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)

Sioe a ddarperir gan: Brainiac

Digwyddiadau