Digwyddiadau

Digwyddiad: Chwedl Dŵr / The Fairytale of Water

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
26 Chwefror 2023, 12 pm a 3.45pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

O dan ddyfroedd gorllewin Cymru mae ‘na straeon - chwedlau am lifogydd - sy'n adrodd hanes adeg pan allech chi gerdded ar draws Bae Aberteifi i Iwerddon. 

Uwchben y tonnau, mae ‘na straeon tylwyth teg anghofiedig sy'n sôn am freuddwydwyr a oedd yn llunio tiroedd paradwysaidd, hen wragedd a oedd yn creu diodydd cariad gyda dŵr ffynnon, ac afonydd a oedd yn cael eu hystyried yn bobl. 

Gan ddefnyddio hen ddulliau o chwedleua gweledol a arweiniodd at ddechreuadau’r diwydiant ffilm, mae'r gwneuthurwr ffilmiau a'r artist sain Jacob Whittaker a'r chwedleuwr a'r darlunydd Peter Stevenson yn mynd ar daith trwy amser i glywed y lleisiau colledig hyn yn y dŵr. 

Comisiynwyd yn arbennig ar gyfer WOW.

46 Munud

Peter Stevenson https://www.peterstevensonarts.co.uk/

Jacob Whittaker https://jacobwhittaker.co.uk/

WOW https://www.wowfilmfestival.com/ Native Spirit https://nativespiritfoundation.org/

Digwyddiadau