Digwyddiadau

Digwyddiad: Sarah Jones - Fy mywyd - Traws a'r eglwys

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
11 Chwefror 2023, 1pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Bywgraffiad Sarah Jones

Sarah oedd y person cyntaf i gael ei hordeinio i'r Eglwys yn Lloegr ar ôl newid rhywedd. Yn 2005 cafodd ei datgelu i'r wasg, a gwelwyd y stori mewn papurau newydd, ar y radio a'r teledu, ac mewn blogiau ledled y byd. ⁠

Ymwelodd aelodau'r wasg â'i phlwyfi yn holi barn pobl am gael ciwrad oedd wedi 'newid rhyw'. ⁠Roedd y bobl a’r Esgob yn gefn iddi.

Ordeiniwyd Sarah yn offeiriad ym mis Medi 2005 er gwaetha'r feirniadaeth gan Gristnogion ceidwadol – hyd yn oed ar fore'r ordeinio ei hun. 

Gwasanaethodd Esgobaeth Henffordd am 14 mlynedd cyn dod yn ficer Canol Caerdydd yn 2018 ac yn Ganon anrhydeddus Cadeirlan Llandaf yn 2019.

Mae Sarah yn siarad â sefydliadau, grwpiau a'r wasg am ryw, rhywedd, amrywiaeth a chynhwysiad, a'r pwysigrwydd o dderbyn cefnogaeth gan eich cyflogwr. Ym mis Mehefin 2021 derbyniodd Sarah Wobr Pride gan Gylchgrawn Attitude.

Dilynwch Sarah:

https://www.sarahjones.org.uk

https://twitter.com/SarahJonestoo

https://www.facebook.com/sarahjonesalso

https://vimeo.com/sarahjonestoo

Digwyddiadau