Digwyddiadau

Digwyddiad: Deborah Parry - Fy mywyd - Traws yn y fyddin

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
11 Chwefror 2023, 12.15pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

WO2 (SQMS) Deborah Penny

Ganwyd WO2 Penny yng Ngorllewin Karachi, Pakistan. Ymunodd â'r fyddin ym mis Medi 1982 a chwblhau Cwrs Comando cyn gwasanaethu gyda Chatrawd Comando 29 y Magnelwyr Brenhinol.

Ym 1999 fe drosglwyddodd i'r Corfflu Logisteg Brenhinol (RLC) fel Technegydd Arfau a chymhwyso fel Gweithredydd Gwaredu Ordnans Ffrwydrol (EOD). Ar gael ei dyrchafu'n Rhingyll cafodd ei haseinio i Sgwadron 621 EOD yr RLC.

Drwy gydol ei gyrfa mae WO2 Penny wedi bod ar ymarferion dramor i Unol Daleithiau America, Belize, Sardinia, Norwy a Brunei ac wedi gwasanaethu yng Ngogledd Iwerddon, Iraq ac Afghanistan. 

Datgelodd WO2 Penny i'r fyddin ac i'w theulu ei bod hi'n Drawsryweddol yn 2004, a mewn dwy flynedd dechreuodd ar ei thaith drawsnewid. Yn 2012 gwasanaethodd yn Afghanistan ar y cyntaf o ddau dymor dyletswydd, a hi oedd y milwr Trawsryweddol cyntaf ar faes y gad.  Wedi hyn, defnyddiodd ei phrofiadau i gynnig cyngor ar faterion Trawsryweddol i'r Gadwyn Awdurdod a sefydlu rhwydwaith i fenywod a milwyr LHDTC+ yng Ngarsiwn Bovington.

Mae hi ar hyn o bryd yn Swyddog Gwarant Tîm Ymgysylltu Amrywiaeth fel rhan o Grŵp Ymgysylltu'r Fyddin.

Yn ddiweddar, roedd ei henw ar restr fer derfynol gwobr cyfraniad oes y Gwobrau Amrywiaeth Cenedlaethol 2022.

Digwyddiadau