Digwyddiad: Noson Swper GRAFT




Ymunwch â ni yng ngardd GRAFT ar 8 Medi ar gyfer swper tymhorol, wedi'i goginio yn y ffwrn goed, gan defnyddio cynnyrch a dyfir yn yr ardd.
Peidiwch â cholli'r noson arbennig yma o fwyd blasus, trafodaethau diddorol, cerddoriaeth fyw a Bar Botanegol gyda diodydd a chwrw lleol.
BWYDLEN- Gyda Shared Plate
- Flatbread steil Groegaidd wedi'i stwffio g/ ysbigoglys a chaws ffeta (v)
- Dip ffa gwyn wedi'i chwipio g/ daikon wedi'u phiclo & thyrmerig ffres (vg/gf)
- Carpaccio betys gyda salsa verde (vg/gf)
- Ffa gardd wedi'u coginio'n araf, ragu corbwmpen a chorbys coch g/ caws gafr (v/gf)
- Salad tatws a thomato confit g/ olew tsili wedi'i eplesu (vg/gf)
- Torte betys a siocled g/ rhiwbob a briwsionyn bisgedi (vg)
Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion dietegol neu alergeddau cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd. Mae’r bwyd yn cael ei wneud mewn cegin gyda chnau a hadau. Er bod pob ymdrech wedi'i wneud i gadw'r rhain ar wahân, ni allwn warantu na fydd unrhyw yn y bwyd.
v = llysieuol / vg = fegan / gf = heb glwten
Mae gennym westeion anhygoel i'n harwain mewn trafodaeth am y pwll tân!
*Cyhoeddiad*
Yn anffodus, ni fydd Sheila Dillon yn gallu ymuno â ni yn Swper GRAFT ddydd Gwener.
Rydym yn ffodus iawn y bydd siaradwr anhygoel arall, sef artist cymdeithasol ac actifydd diwylliannol Shelley Sacks, yn cymryd ei lle mewn sgwrs gyda Dee Woods ac Owen Griffiths.
Tocynnau £15 y pen
(Bydd y digwyddiad hwn yn dod tu mewn i'r Amgueddfa mewn tywydd garw)