Digwyddiad:Gŵyl Tawe

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Rydym yn gyffrous iawn i groesawu Gŵyl Tawe eleni eto! - gŵyl iaith Gymraeg Abertawe.

Yn serennu - GWENNO and MELIN MELYN!

Bydd yr ŵyl eto yn gweld perfformiadau gan lu o artistiaid amgen, cyfoes sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg mewn ffyrdd amrywiol a chyffrous. Bydd y gerddoriaeth fyw yn cael ei chynnal ar draws prif lwyfan awyr agored yr ŵyl a’r ail lwyfan yng nghanol yr amgueddfa.

Yn ogystal â’r gerddoriaeth fyw, bydd sioeau theatr ryngweithiol i deuluoedd, perfformiadau gan ysgolion lleol, ac amryw o weithdai creadigol.

Wedi ei curadu gan Menter Iaith Abertawe. 

Gŵyl Tawe

Fideo Gŵyl Tawe 2025

Amserlen digwyddiadau Gwyl Tawe, mae'r amserlen ei hun yn las tywyll gyda'r digwyddiadau eu hunain wedi eu cynnwys mewn sgwar glas golau

 

Gwenno - Mae Gwenno Saunders wedi bod yn gweithio fel cerddor a chynhyrchydd proffesiynol ers dros 25 mlynedd ac wedi rhyddhau 2 EP, 4 albwm unigol, a 2 albwm llawn gyda'r grŵp indie-pop The Pipettes. Fel cyfansoddwr a chynhyrchydd, mae hi wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2015 am ei halbwm unigol cyntaf 'Y Dydd Olaf' a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Gerddoriaeth Mercury yn 2022 am ei thrydydd albwm 'Tresor'. Yn 2025 rhyddhaodd Gwenno ei phedwerydd albwm unigol, 'Utopia', ar Heavenly Recordings.

Melin Melyn - Wedi'i ffurfio yn 2019 gan Gruff Glyn (prif lais, gitâr, sacsoffon), Will Barratt (gitâr), Cai Dyfan (drymiau) a Garmon Rhys (bas, llais cefndir ac sydd hefyd yn perfformio fel The Mighty Observer), Melin Melyn oedd prif brosiect cerddorol cyntaf Gruff. Ar ôl tua blwyddyn yn perfformio fel pedwarawd, ymunodd Rhodri Brooks (pedal steel) a Dylan Morgan (allweddellau) â'r band, gan ychwanegu gravitas pellach a chwblhau'r sain yr oedd y band wedi bod yn chwilio amdano. Mae eu halbwm cyntaf 'Mill on the Hill' yn gweld y band yn neidio rhwng roc syrffio, canu gwlad, prog-roc a seicedelia gyda steil a sgil band sydd eisoes wedi rhyddhau nifer o recordiau, wedi'u plethu gan egwyddor thematig ddychmygus.

Gwybodaeth

6 Mehefin 2026, 10yb - 9yp
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
gwyl tawe 2026
gwyl tawe 2026
gwyl tawe 2026
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau