Arddangosfa: Rheilffyrdd Unedig
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Darganfyddwch yr hanes rhyfeddol y tu ôl i'n rheilffyrdd.
Mae’r arddangosfa hon yn arddangos yr amrywiaeth o reilffyrdd lleol a fodolai ledled Cymru cyn 1923.
Byddwch hefyd yn dysgu am sut mae rheilffyrdd segur wedi cael eu hailddefnyddio fel llwybrau beicio a llwybrau troed, eu hailagor fel rheilffyrdd treftadaeth, a rheilffyrdd y bwriedir eu hailagor i leddfu tagfeydd ar y ffyrdd fel rhan o drafnidiaeth gynaliadwy.