Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Hydref, 1953. Mae Dylan Thomas, sy’n sâl a'i broblemau personol yn faich arno, ar ei bedwaredd daith i America – y daith dyngedfennol. Wedi'i adael gan ei gariad o Efrog Newydd, mae'n ymlwybro o dafarn i dafarn yn Greenwich Village, lle mae'n cwrdd â phobl anhysbys iddo yn bennaf. Maen nhw'n cael profiad o'r Dylan direidus a'r Dylan difrifol â'i draed ar y ddaear.
Yn ei ddrama newydd, mae'r bardd a'r dramodydd Cymreig, Peter Thabit Jones, yn ail-fyw oriau olaf bywyd Dylan o'i ddychymyg, wrth i'r bardd ymweld â thafarndai Greenwich Village cyn cael ei ddanfon i Ysbyty St. Vincent. Mae gan y ddrama wirionedd yn llifo drwyddi, yn ddigrif, teimladwy, a thrasig; mae'n agor y llenni a chanolbwyntio ar oriau gwerthfawr, olaf yr athrylith llenyddol hwn a adawodd ein byd yn 39 oed, a rhoi ail fywyd iddyn nhw.
I archebu lle, ewch i: Gŵyl Ymylol Abertawe 2023
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd