Digwyddiad:Ffilm yn yr oriel ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost – The Silent Village (U) 1943

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni i wylio ffilm arbennig yn yr oriel ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost.

Dewiswyd y ffilm am ei bod yn ymgorffori thema'r cofio yn 2024, Breuder a Rhyddid.  

Stori wir yw The Silent Village, hanes cyflafan gan y Natsïaid mewn pentref bach yn Czechia wedi'i hailddweud yng Nghymru. ⁠⁠

Mae'r ffilm yn dilyn bywyd trigolion Cwmgïedd ger Ystradgynlais yn ne orllewin Powys. Mewn Prydain a gafodd ei goresgyn gan y Natsïaid ym 1940, mae'r gymuned yn dioddef yr un gormes a dinistr a welwyd yn Lidice flwyddyn ynghynt. Fe welwn ni'r glowyr yn sefyll yn gadarn i warchod y rhai oedd yn mynnu gwrthsefyll, gan ennyn dicter yr awdurdodau a golygfeydd dirdynnol o fenywod a phlant yn cael eu tynnu i ffwrdd wrth i'r dynion gael eu saethu dan ganu Hen Wlad fy Nhadau. 

Does dim trais amlwg yn y ffilm, a welwn ni ddim o'r awdurdodau ond yr un car du sgleiniog. Mae'r ffilm yn cloi gyda golygfeydd o fywyd fel ag yr oedd yng Nghwmgïedd ym 1942/1943, ond yn esbonio i'r gynulleidfa y perygl gwirioneddol a'r canlyniadau petai Prydain yn cwympo i'r Natsïaid.

Doedd dim actorion proffesiynol yn y ffilm, a dim deialog wedi'i sgriptio. 

Cyn y ffilm bydd cyflwyniad dan arweiniad sefydliad Josef Herman.

36 Munud

Gwybodaeth

27 Ionawr 2024, 1pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Galw heibio
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau