Digwyddiad:Stwff! Sut ar y ddaear? gyda Maddie Moate

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Ymunwch â'r cyflwynydd teledu plant poblogaidd a'r seren You Tube Maddie Moate wrth iddi gyflwyno ffeithiau anhygoel a straeon diddorol am rai o'r ffyrdd rhyfeddol mae pobl ledled y byd yn gwneud ac yn ailddefnyddio STWFF!

Ydych chi erioed wedi meddwl o le ddaeth eich stwff, a beth sy'n digwydd iddo pan fyddwch chi wedi gorffen ag e? Oeddech chi'n gwybod eich bod chi'n gallu gwneud papur o faw eliffantod? A phecynnu plastig o wymon?!
Gan ddod â straeon o'i llyfr yn fyw i'r llwyfan, gydag arddangosiadau a chryn dipyn o ryngweithio â'r gynulleidfa, bydd Maddie yn ysbrydoli meddyliau ifanc i feddwl am y ffyrdd dyfeisgar o wneud, defnyddio ac ailddefnyddio'r pethau o'n cwmpas.
 
Cefndir:
Mae Maddie Moate wedi ennill BAFTA am ei gwaith cyflwyno ac mae'n ffefryn ar YouTube. Mae'n angerddol dros ennyn chwilfrydedd ac ysbrydoli plant am ryfeddodau'r byd. Hi yw cyflwynydd y gyfres deledu "Maddie's Do You Know?" a gafodd enwebiad BAFTA, podlediad Sony Music "Maddie's Sound Explorers" a hi gyflwynodd "Earth Unplugged" BBC Earth. Mae sianel YouTube Maddie yn gyforiog o fideos gwyddoniaeth hwyliog ar gyfer y teulu cyfan, sydd wedi mynd â hi ar anturiaethau diddorol ar hyd a lled y byd. Mae ei sianel hefyd yn gartref i'r gyfres hynod boblogaidd "Let's Go Live with Maddie and Greg", sioe wyddonol fyw i'r teulu a helpodd deuluoedd di-ri gydag addysg gartref dros y cyfnod clo.
 
Bydd modd cael llyfr wedi’i lofnodi gyda'r awdur ar ôl y sioe hon.
Bydd llyfrau ar gael i'w prynu o siop anrhegion yr Amgueddfa.
Sylwer: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.
Cynnig arbennig - Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau â thâl yn eich basged docynnau i arbed 30%!
 
 
 
Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)
 
 

Gwybodaeth

26 Hydref 2024, 11am & 2pm
Pris £4yp
Addasrwydd Oed 5 - 7
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau