Archebu tocyn
Does neb yn adnabod y diffeithwch yn well na Ray Mears.
'Beth yw diffeithwch?', Pam y mae mor bwysig?
Efallai bydd y cyflwyniad llawn ysbrydoliaeth hwn yn newid eich barn am y byd am byth.
...Ar ôl treulio mwy na deugain mlynedd yn archwilio pellafoedd ein planed, mae Ray Mears yn esbonio sut mae wedi cael ei newid gan y bobl y mae wedi cwrdd â nhw a'r lleoedd mae wedi ymweld â nhw. Beth yw ystyr diffeithwch iddo a pham y mae'n meddwl ei fod yn hollbwysig ar gyfer ein dyfodol
‘In wilderness there is hope’ Ray Mears
Hyd 45 - 60 munud
Archebwch lyfr diweddaraf Ray, 'British Woodlands', ymlaen llaw a bydd yn hapus i'w lofnodi i chi.
Bydd modd cael llyfr wedi’i lofnodi gyda'r awdur ar ôl y sioe hon.
Bydd llyfrau ar gael i'w prynu o siop anrhegion yr Amgueddfa.
Bywgraffiad - Mae Ray Mears yn siaradwr cymhellol, yn ffotograffydd ac yn gyflwynydd teledu.
Mae Ray Mears wedi'i gydnabod fel arbenigwr blaenllaw ar sgiliau byw yn y gwyllt a goroesi. Ym 1983 sefydlodd Ray 'Woodlore', ysgol anialdir a byw yn y gwyllt gyntaf Prydain. Gweledigaeth Ray oedd rhoi cyfle i eraill gamu y tu hwnt i hyfforddiant goroesi a meistroli sgiliau traddodiadol teithio yn y gwyllt. Mae'n fwyaf adnabyddus am y cyfresi teledu Ray Mears Bushcraft, Ray Mears World of Survival, Wilderness Walks, Extreme Survival, Wild Britain gyda Ray Mears, Wild China a Real Heroes Telemark. Yn 2010, gofynnodd Heddlu Northumbria am gymorth Ray i ganfod y llofrudd Raoul Moat oedd ar ffo.
Sylwer: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.
Cynnig arbennig - Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau lle codir tâl yn eich basged docynnau i arbed 30%!