Digwyddiad:Sioe Corach

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Archebu tocynnau

Gyda Dydd Nadolig yn prysur agosáu a llawer o waith Nadoligaidd i'w gwneud, gall Siôn Corn bob amser ddibynnu ar ei Brif Goblyn, Jolly i gyflawni pethau. 

Ond, nid yw pob coblyn ym Mhegwn y Gogledd yn ymddwyn mor dda, yn enwedig y Sprouts direidus.

Allwch chi helpu Corach Jolly i gadw pethau ar y trywydd iawn, wrth i ni gyfrif i lawr at y Nadolig gyda'r perfformiad Nadoligaidd llawn hwyl yma? 

Gwyliwch allan am ddillad isaf yn hedfan o gwmpas!

Hyd y sioe 30 munud


 

Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau.
Mae rhaglen digwyddiadau Nadolig Amgueddfa Cymru wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Gwybodaeth

1 Rhagfyr 2024, 12pm, 1pm & 2.30pm
Pris £2.50 y plentyn
Addasrwydd Oed 3 +
Sold Out
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
1 December 2024 Sold Out 

Digwyddiadau perthnasol

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Cliciwch 'archebu' i weld pa ddyddiadau sydd ar gael

Ymweld

Oriau Agor

O ddydd Llun 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm bob dydd.

Nadolig a'r Flwyddyn Newydd: Ar gau 24-26 Rhagfyr a 1 Ionawr. 

Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau