Archebu tocyn
Rydym yn byw mewn byd sy'n newid yn gyflym ac yn edrych ar argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Ond mae cadwraeth yn ymwneud â phobl, ac rydyn ni'n gwybod sut i drwsio pethau.
Mae'r digwyddiad yma yn archwilio difodiant, gan gynnwys rhai o'r ffyrdd mwyaf dyfeisgar o dynnu rhywogaethau yn ôl o'r dibyn, ac yn trafod sut yr ydym i gyd yn rhan o'r atebion – ond rhaid i ni fod yn ddigon dewr a beiddgar i sefyll drosto.
Megan McCubbin yw un o gyflwynwyr bywyd gwyllt mwyaf blaenllaw Prydain, gan gyfuno ei harbenigedd fel gwyddonydd gyda chariad at antur ac angerdd am godi ymwybyddiaeth o faterion hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae Megan yn fwyaf adnabyddus fel un o wynebau cyfresi Springwatch a Winterwatch y BBC sydd wedi ennill gwobr BAFTA.
Sylwer: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.
Bydd modd cael llyfr wedi’i lofnodi gyda'r awdur ar ôl y sioe hon.
Bydd llyfrau ar gael i'w prynu o siop anrhegion yr Amgueddfa.
Cynnig arbennig - Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau lle codir tâl yn eich basged docynnau i arbed 30%!