Digwyddiad:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Taith o oriel a sesiwn drwmio

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am sesiwn ddrymio gyda One Heart Drummers. Bydd cyfle wedyn i weld rhai o’r gwrthrychau yn un o’n horielau a’r casgliad trin a thrafod Nadolig.  

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
  • Cyfle i fwyhau gweithgaredd ysgafn a’n casgliadau
  • Diod gynnes a sgwrs

Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae'r sesiwn yn para tua 2.5 awr, gydag egwyl a lluniaeth. 

Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am ⁠hygyrchedd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae'r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Rhaid archebu ymlaen llawI archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu tocynnau’ i’r dde’. Neu gallwch chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio'n broblem.

Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.

Gwybodaeth

29 Ionawr 2026, 1 – 3:30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia
Dwy dynion yn eistedd gyda ddewis o drwmiau steil bongo
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
29 Ionawr 2026 13:00 Gweld Tocynnau

Mwy o gynnwys

Oedrannau: Addas i bawb

Ymweld

Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau