Arddangosfa:Atgofion Gwehydd am Longddrylliadau Ceredigion

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Mae Atgofion Gwehydd yn ymwneud ag ethos morwrol cymunedau arfordirol Ceredigion. 

Mae’r arlunydd yn byw yn Aber-arth, ger Aberaeron, oedd â hanes hir o adeiladu llongau ar ddechrau’r 1800au. 

Mae’r arddangosfa hon o hwyliau wedi’u gwehyddu yn deyrnged i hynny. Mae’n gyfarchiad i entrepreneuriaeth, stoiciaeth a dewrder y cymunedau morwrol o gwmpas arfordir Cymru adeg hynny. Roedd yn gyfnod lle roedd pobl yn adeiladu tai o gerrig mân y traeth a'u gosod gyda'u cefnau at y môr fel amddiffyniad rhag y tywydd.

Yn ogystal â chofio llongau hanesyddol, mae’r arlunydd wedi cynnwys tynged bresennol y ffoaduriaid sy'n croesi'r Sianel i Brydain. Mae un hwyl gyda lliwiau baneri cenedlaethol Afghanistan, Iran, Twrci, Eritrea, Syria, a Fietnam yn cynrychioli'r gwledydd y daeth llawer o fudwyr a gollodd eu bywydau ohonynt, gan ddangos er bod dwy ganrif rhyngddynt, mae’r trasiedïau hyn yn dal i ddigwydd.

Mae’r Artist a Gwehydd Vicky Ellis wedi bod yn defnyddio tecstilau ers dros 50 mlynedd, gyda thraddodiad Bauhaus yn ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth. Mae hi'n gweld y gwaith mae hi'n ei gynhyrchu fel paentiadau cyfoes mewn edafedd. Dangoswyd Woven Memories am y tro cyntaf ym MOMA Machynlleth yn 2024.

Gwybodaeth

17 Chwefror–21 Mawrth 2025
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau