Arddangosfa:Sawl Cam o Buro/Buredigaeth

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Mae Sawl Cam o Buro/Buredigaeth yn gorff o waith sy'n trafod cyfnod 'Copperopolis' Abertawe, pan oedd y ddinas yn cynhyrchu mwy o gopr nag unrhyw le arall yn y byd, ac yn enwedig ingotau gafodd eu hallforio gan yr East India Company er mwyn cynhyrchu pres yn India; ynghyd â gweithgarwch cenhadon Methodistaidd a oedd yn digwydd o ganlyniad i dwf economaidd Cymru, gwlad ddiwydiannol gyntaf y byd. Gyda'r cyd-destun hanesyddol hwn yn gefndir, mae'r artist a gwneuthurwr ffilmiau Lal Davies yn ystyried treftadaeth De Indiaidd ei theulu, a'u taith i Ogledd Cymru o 1919 ymlaen, gan ddatgelu straeon sy'n rhan o hanes Cymru ond sydd heb eu hadrodd.

Ar y cyd gydag Artistiaid GS. 

Safbwynt(iau)

Mae Safbwynt(iau) yn datgelu hanesion cudd y casgliadau cenedlaethol, o 'webs', sef brethyn Cymreig a ddefnyddiwyd i greu dillad i bobl o Affrica gafodd eu cipio a'u caethiwo, i soffa goch foethus Robert Clive, ffigwr allweddol yn hanes trefedigaeth Prydain yn India. Mae'r rhaglen yn mynd i'r afael â gwaddol cymhleth a phoenus, yn taflu goleuni newydd ar y gorffennol ac yn gosod sylfeini ar gyfer dyfodol mwy cynhwysol sy'n cydnabod y cyfraniadau a’r profiadau amrywiol sydd wedi siapio Cymru a'r byd.

Mae Safbwynt(iau), sy'n broject ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth

17 Chwefror–31 Awst 2025
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau