Digwyddiad:Wilding (PG, 2023)
Dewch i ymuno â ni i ddathlu Diwrnod y Ddaear gyda dangosiad arbennig am ddim o'r rhaglen ddogfen arobryn “Wilding”.
Yn seiliedig ar lyfr poblogaidd Isabella Tree o'r un teitl, mae Wilding yn adrodd hanes cwpl ifanc sy'n betio ar natur ar gyfer dyfodol eu stad pedwar can mlwydd oed. Mae'r ddau yn brwydro’n erbyn traddodiadau wrth iddynt rwygo ffensys a gosod y tir yn ôl i'w gyflwr naturiol, gan ymddiried yn ei adferiad i gymysgedd o anifeiliaid dof a gwyllt.
Mae'n ddechrau arbrawf mawreddog a fydd yn dod yn un o'r prosiectau dad-ddofi mwyaf arwyddocaol yn Ewrop.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd