Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Yn Ebrill 2025, fe gychwynodd y wisg ar gyfnod newydd ar ei thaith yn yr amgueddfa pan gafodd ei lliwio â lliw indigo naturiol a siaced ‘betgwn’ wlân, yn deyrnged i wisg draddodiadol Gymreig.
Dros y 10 wythnos canlynol fe drawsnewidiwyd y wisg mewn dros 30 o weithdai dan arweiniad yr artist Menna Buss. Daeth y gweithdai yma ac aelodau o’r gymuned at eu gilydd, rhai oedd gyda phrofiad o frodio, ond nifer fawr heb brofiad, i rannu straeon a’u cysylltiadau gyda Chymru.
Yn Hydref 2025 fe wnaeth y wisg ymddangos yng Nghardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Gŵyl Grefft Aberteifi a Coleg Gwyr Abertawe ac mae cynlluniau cyffrous ar gyfer y wisg yn 2026.
Hanes Gwisg Galico Cymru
Yn 2022, cafodd project rhyngwladol enwog Kirstie Macloed, Y Wisg Goch, ei arddangos yn yr Amgueddfa.
Mae’r prosiect bellach wedi torri Record Byd Guinness am y nifer mwyaf o frodwyr i weithio ar un dilledyn. Cafodd y wisg ei chreu gan 380 o artistiaid mewn 51 gwlad dros gyfnod o 14 mlynedd. Mae’r prosiect yn parhau i deithio ac ysbrydoli.
Cafodd Gwisg Galico Cymru ei chreu mewn partneriaeth â'r Amgueddfa. Dyma 'ferch' gyntaf y Wisg Goch. Bellach mae llawer iawn o rai eraill yn cael eu datblygu ar draws y byd. Byddan nhw'n cael eu harddangos gyda'u gilydd yn y dyfodol.
www.reddressembroidery.com (Saesneg yn unig)
@reddress_embroidery
@calicodress_cymru
@menna_buss
Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.
Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.
Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd